Students in lecture hall some with hands up

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS)?

Mae’r NSS yn gyfrifiad blynyddol proffil uchel o bron hanner miliwn o fyfyrwyr ledled y DU. Mae’n arolwg sefydledig wedi’i gynnal bob blwyddyn ers 2005, ac mae’n llunio data defnyddiol i helpu prifysgolion, colegau ac undebau myfyrwyr (cymdeithasau neu urddau) i nodi beth maent yn ei wneud yn dda, a beth sydd angen ei wella. Mae’n rhoi llais pwerus i fyfyrwyr i helpu i lywio dyfodol eu cwrs. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i ddarpar fyfyrwyr sy’n penderfynu beth i’w astudio ac ymhle.

Mae’r arolwg yn casglu adborth gan fyfyrwyr cymwys, y bydd y rhan fwyaf ohonynt ar ddiwedd eu hastudiaethau. Gofynnir iddynt ymateb i gwestiynau dewis sengl sy’n ymwneud ag amryw agweddau ar eu cwrs.

Mae’r arolwg yn rhedeg ar draws pob darparwr addysg uwch a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Yn ogystal, mae colegau addysg bellach yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a sefydliadau addysg bellach (SABau) yng Nghymru sydd â myfyrwyr addysg uwch a ariennir yn uniongyrchol, yn gymwys i gymryd rhan.

Mae’n orfodol i brifysgolion a cholegau gymryd rhan yn yr NSS pan fo’r canlynol yn berthnasol:

  • Yn Lloegr, bydd disgwyl i bob darparwr (sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach) sydd wedi’i gofrestru a’i reoleiddio gan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) gymryd rhan yn yr NSS fel rhan o’i amodau cofrestru parhaus.
  • Yng Ngogledd Iwerddon, mae cymryd rhan yn yr NSS yn amod ar gyfer derbyn arian fel y nodir yn y memoranda ariannol rhwng prifysgolion ac Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon). Mae colegau addysg bellach yng Ngogledd Iwerddon yn cymryd rhan yn yr NSS er mwyn bodloni gofynion sicrhau ansawdd.
  • Yn yr Alban, mae cyfranogiad darparwyr addysg uwch yn amod ar gyfer derbyn arian gan Gyngor Cyllido’r Alban.
  • Yng Nghymru, mae disgwyl i bob darparwr a reoleiddir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru[1]  (CCAUC) ac a ariennir gan CCAUC gymryd rhan yn yr NSS er mwyn sicrhau bod safbwyntiau’r corff amrywiol o fyfyrwyr yn cael eu cynrychioli, yn unol â’i gyfrifoldeb statudol i helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu ac i hyrwyddo cydraddoldeb, ac mae’r canlyniadau yn llywio cyfrifoldebau rheoleiddio CCAUC.

[1] O 1 Ebrill 2024, bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn cael ei ddiddymu a bydd corff newydd a noddir gan Lywodraeth Cymru o’r enw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn dod yn weithredol ac yn gyfrifol am y strategaeth ar gyfer darpariaeth ôl-16 ac am gyllido a goruchwylio’r ddarpariaeth honno, gan gynnwys addysg uwch, yng Nghymru. Mae hyn yn debygol o arwain at ofynion gwahanol ar gyfer cyfranogi yn yr NSS mewn blynyddoedd yn y dyfodol, a fydd yn dal i ymgorffori cyfranogwyr cyfredol.

Cynhelir yr NSS am bedwar prif reswm:

  1. I lywio penderfyniadau myfyrwyr – mae’n galluogi darpar fyfyrwyr i gymharu cyrsiau mewn gwahanol brifysgolion a cholegau wrth benderfynu am beth i’w astudio ac ymhle.
  2. I ddarparu gwybodaeth er mwyn gwella profiad myfyrwyr – mae prifysgolion a cholegau’n defnyddio’r canlyniadau i helpu i wella eu cyrsiau, eu cyfleusterau a phrofiad dysgu’r myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr y presennol a’r dyfodol.
  3. I gynorthwyo â sicrhau ansawdd a’r dirwedd reoliadol ehangach ym maes addysg uwch y DU.
  4. I roi sicrwydd cyhoeddus – mae’r arolwg hefyd yn fecanwaith i ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd am ansawdd addysg uwch yn y DU.

Mae eich adborth yn rhoi darlun i brifysgolion a cholegau o sut beth oedd y profiad dysgu i’r myfyrwyr sy’n gorffen eu cyrsiau yn 2023. Gall prifysgolion, colegau ac undebau myfyrwyr (cymdeithasau neu urddau) ddefnyddio’r data dienw i nodi beth maent yn ei wneud yn dda a beth sydd angen ei wella, i helpu i gyflawni newidiadau a fydd yn gwella’r profiad cyffredinol i fyfyrwyr. Yn ehangach, mae’r NSS yn rhoi gwybodaeth bwysig i’r pedwar rheoleiddiwr addysg uwch yn y DU ynglŷn ag ansawdd addysg uwch ledled y DU.

Caiff data o’r NSS ei gyhoeddi ar wefan Darganfod Prifysgol. Gall darpar fyfyrwyr ddefnyddio Darganfod Prifysgol i gymharu canlyniadau NSS ar draws gwahanol gyrsiau addysg uwch i’w helpu i wneud dewis gwybodus am beth i astudio ac ymhle.

Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) yn cyhoeddi canlyniadau ar ei gwefan y gellir eu lawrlwytho. Ond ni chaiff sylwadau agored dienw eu cyhoeddi a chânt ond eu gweld gan eich prifysgol neu eich coleg.

Gweler yr adran ‘Canlyniadau’ am fwy o wybodaeth am gyhoeddi canlyniadau yn 2023.

Caiff yr NSS ei gynnal gan Ipsos MORI a’i gomisiynu gan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS), ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU – Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Cyngor Cyllido’r Alban (SFC), ac Adran yr Economi Gogledd Iwerddon (DfENI).

Mathau o gwestiynau a ofynnir

Cwestiynau craidd

Mae’r arolwg yn gofyn i fyfyrwyr blwyddyn olaf roi adborth ar eu profiad academaidd mewn perthynas â’r agweddau canlynol:

  • Yr addysgu ar fy Nghwrs
  • Cyfleoedd Dysgu
  • Asesu ac Adborth
  • Cymorth Academaidd
  • Trefniadaeth a Rheoli
  • Adnoddau Dysgu
  • Llais Myfyrwyr

Ar ôl y cwestiynau am lais myfyrwyr, gellir gofyn cwestiynau ychwanegol i fyfyrwyr am y canlynol:

  • Gofal iechyd, iechyd perthynol a lleoliadau ymarfer clinigol (ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio pynciau sy’n cynnwys gofal iechyd, iechyd perthynol a lleoliadau ymarfer clinigol)
  • Boddhad cyffredinol ag ansawdd eu cwrs (i’w gofyn i fyfyrwyr yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru yn unig)

Cwestiynau am leoliadau gofal iechyd, proffesiynau perthynol i iechyd ac ymarfer clinigol

Gall myfyrwyr sy’n astudio pynciau nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiwn perthynol i iechyd, gwaith cymdeithasol ac ymarfer clinigol cyn cofrestru wneud lleoliadau ymarfer, felly mae eu profiad o addysg uwch ychydig yn wahanol. Yn ogystal â’r cwestiynau craidd, gofynnir cwestiynau ychwanegol i fyfyrwyr sy’n astudio’r pynciau hyn am eu profiad ar eu lleoliadau ymarfer.

Sylwadau agored

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddarparu sylwadau cadarnhaol a negyddol am eu profiad dysgu fel myfyrwyr yn gyffredinol yn eu prifysgol neu goleg. Caiff sylwadau eu hanfon ymlaen yn ddienw i’r brifysgol a cholegau er mwyn eu helpu i weld ble mae’r cryfderau a hefyd sut gallant wneud gwelliannau.

Noder bod y cwestiynau penagored yn ddewisol ac mae uchafswm geiriau o 4,000 o nodau. Gallwch hefyd ddewis anfon sylwadau ychwanegol dros neges e-bost at Ipsos drwy thestudentsurvey@ipsos.com.

Er mwyn cadw eich hun ac eraill yn ddienw, gofynnir i chi beidio â gwneud sylwadau:

  • a fyddai’n galluogi eich adnabod fel unigolyn;
  • sy’n enwi unigolion; neu
  • sy’n cyfeirio at bethau a fyddai’n galluogi adnabod unigolyn arall, e.e. arweinydd cwrs neu bennaeth adran.

Cwestiynau dewisol

Caiff prifysgolion a cholegau ddewis hyd at chwe chronfa o gwestiynau dewisol gall hefyd chynnwys hyd at ddau gwestiwn ychwanegol sy’n benodol i’r brifysgol neu i’r coleg. Gofynnir iddynt gytuno gydag undebau myfyrwyr ar eu dewis o gronfeydd cwestiynau dewisol i’w cynnwys.

Atodir y cwestiynau hyn wrth gwestiynau craidd yr NSS. Dim ond ar ôl i chi gwblhau’r arolwg ar-lein y gofynnir y cwestiynau dewisol hyn i chi ac ni ddylent ond cymryd ychydig o funudau i’w cwblhau. Nid oes rhaid i chi gwblhau’r cwestiynau hyn, ac os ydych yn gwrthod gwneud, bydd eich atebion ar gyfer cwestiynau’r NSS yn dal i gael eu cyflwyno. Caiff yr atebion i’r cwestiynau hyn eu darparu i’ch prifysgol neu goleg yn unig ac ni chânt eu rhyddhau i’r cyhoedd.

Gellir dod o hyd i Holiadur yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 yma.

Mae’r mwyafrif o gwestiynau yr un fath ar gyfer yr holl fyfyrwyr, ond mae hyn yn amrywio gan ddibynnu ble y mae’r myfyriwr wedi’i leoli.Fel a nodir yn yr adrannau uchod, dim ond i fyfyrwyr yn Lloegr y bydd y cwestiwn am ryddid mynegiant yn cael ei ofyn a dim ond i fyfyrwyr yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru y bydd y cwestiwn am foddhad cyffredinol yn cael ei ofyn.

Gall rhai prifysgolion neu golegau gynnwys cwestiynau dewisol, fel a nodir uchod, a gall myfyrwyr sy’n astudio pynciau nyrsio cyn cofrestru, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd, gwaith cymdeithasol ac ymarfer clinigol gael cwestiynau ychwanegol am eu profiad ar eu lleoliadau ymarfer hefyd.

Ymateb i’r NSS [ar gyfer myfyrwyr]

Chi a’ch cynfyfyrwyr yn unig sy’n gwybod sut beth oedd astudio ar eich cwrs ac felly mae’r NSS wedi’i lunio er mwyn casglu barn myfyrwyr ar y meysydd sydd o bwys i chi. Bydd eich prifysgol neu eich coleg yn defnyddio eich adborth i gyflawni newid go iawn i brofiad y myfyriwr.

Bydd eich ymateb i’r NSS hefyd yn helpu i roi gwybodaeth ddefnyddiol i ddarpar fyfyrwyr am eich cwrs. Caiff y canlyniadau eu rhyddhau i’r cyhoedd drwy wefan Darganfod Prifysgol. Gall darpar fyfyrwyr ddefnyddio Darganfod Prifysgol i gymharu canlyniadau’r NSS ar draws gwahanol gyrsiau addysg uwch i’w helpu i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â beth i’w astudio ac ymhle.

Er mwyn sicrhau uniondeb data’r NSS, caiff prifysgolion a cholegau eu llywio ar sut maent yn hyrwyddo’r NSS, gan gynnwys beth a ystyrir yn dylanwadu’n amhriodol a sut i’w osgoi wrth annog myfyrwyr i gymryd rhan. Dylai’r NSS adlewyrchu beth rydych yn ei feddwl am eich cwrs ac felly mae’n bwysig nad yw eich prifysgol neu eich coleg yn gwneud unrhyw beth a allai ddylanwadu ar eich ymateb. Tra gallai prifysgolion a cholegau benderfynu hyrwyddo’r arolwg ac atgoffa myfyrwyr i gwblhau’r NSS, ni chânt annog myfyrwyr i adlewyrchu unrhyw beth oni bai am eu gwir farn am eu profiadau yn eu hatebion.

Mae yna ganllaw i fyfyrwyr ar ddylanwadu’n amhriodol i helpu a chynorthwyo myfyrwyr os ydynt yn teimlo y dylanwadir arnynt ynglŷn â sut i ymateb i’r arolwg. Mae’r canllaw hwn yn manylu ar beth allai olygu dylanwadu’n amhriodol a’r mathau o hyrwyddo mae prifysgolion a cholegau yn cael eu cynnal, neu beidio. Mae hefyd yn dweud wrthych sut i adrodd pryderon, y prosesau sydd ar waith i ymchwilio i honiadau o ddylanwadu’n amhriodol, a beth sy’n digwydd pe bai rhywun yn torri’r canllawiau. Os ydych yn meddwl bod eich prifysgol neu eich coleg yn dylanwadu ar ymatebion myfyrwyr i’r NSS yn amhriodol, anfonwch e-bost at NSSallegations@officeforstudents.org.uk.

Dim ond rhyw ddeng munud y bydd yn ei gymryd i ateb cwestiynau’r NSS.

Efallai bydd eich prifysgol neu eich coleg yn dewis cynnwys ychydig o gwestiynau dewisol yn ychwanegol at gwestiynau’r NSS, ond nid oes rhaid i chi ymateb i’r rhain os yw’n well gennych beidio â gwneud hynny.

Bydd Ipsos yn cysylltu â’r holl fyfyrwyr cymwys trwy’r e-bost neu dros y ffôn.

Mae angen i ni wirio eich bod yn gymwys i gymryd rhan. Os nad yw eich gwybodaeth bersonol yn gywir, efallai y byddwn yn ailgysylltu â chi i ddilysu eich ymateb. Os ydych yn gymwys, bydd eich ymatebion yn cael eu cyflwyno i’r arolwg. Unwaith y bydd cwestiynau’r arolwg wedi cael eu cwblhau, ni chysylltir â chi eto ac ni fyddwch yn cael unrhyw negeseuon atgoffa pellach gan Ipsos ynghylch NSS 2024.

I ddechrau, byddwn yn ceisio cysylltu â chi drwy e-bost, ac os na chawn ymateb, yna byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn. Mae’r arolwg wedi’i gysylltu â chronfa ddata fyw o fyfyrwyr cymwys, ac mae’r gronfa ddata yn cael ei diweddaru bob dydd er mwyn sicrhau nad yw myfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau’r NSS yn derbyn mwy o wahoddiadau. Os byddwch wedi cwblhau’r arolwg ond yn dal i gael gwahoddiad neu neges atgoffa, gallai hynny fod yn sgil ein hanallu i gyfateb y manylion a roddwyd gennych i’r manylion a roddwyd gan eich prifysgol neu eich coleg. Hefyd, mae’n bosibl y bydd rhywfaint o orgyffwrdd o ran pryd yr anfonwyd eich ymateb a phryd y cysylltwyd â chi eto.

Os na allwch gael hyd i’r arolwg, fe’ch cynghorem i wirio’r wybodaeth ddilysu a roddwyd gennych. Gallwch wirio eich bod yn gymwys drwy ddarllen yr adran Cymhwystra a Chyfranogiad isod, y dudalen Cymhwystra, neu gan ddefnyddio’r gweithrediad gwirio cymhwystra yma. Gallwch gysylltu â ni hefyd drwy: thestudentsurvey@ipsos.com.

Os ydych wedi derbyn nodyn atgoffa oddi wrth Ipsos wedi ichi gwblhau’r arolwg, mae tri rheswm posibl dros hyn:

  1. Nid ydym wedi cael eich arolwg gorffenedig. Mae’n bosibl nad ydych wedi cwblhau eich ymateb yn llawn a’i gyflwyno. Os felly, gofynnwn ichi gwblhau’r arolwg yn llawn unwaith eto.
  2. Nid oedd eich manylion yn cyfateb â’r manylion yn ein cronfa ddata (sy’n cynnwys yr holl fyfyrwyr sy’n gymwys i gymryd rhan) er mwyn dilysu eich ymateb. Mae’n rhaid i ni fod yn sicr mai chi a anfonodd yr ymateb rydym wedi ei dderbyn er mwyn ei ddilysu. Cwblhewch yr arolwg eto a rhowch wybodaeth adnabod gywir er mwyn i ni allu dilysu eich ymateb.
  3. Roedd y cyfnod rhwng cyflwyno eich ymateb a diweddaru ein cronfa ddata yn gorgyffwrdd. Byddwn yn diweddaru ein cronfa ddata bob dydd drwy gydol cyfnod yr arolwg er mwyn lleihau’r siawns o hyn yn digwydd, ond gall hyn ddigwydd weithiau i rai ymatebwyr. Cysylltwch â thestudentsurvey@ipsos.com i wirio a ydym wedi cofnodi eich ymateb gorffenedig.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r NSS ac mae’ch ymateb wedi cael ei ddilysu, ni ddylech dderbyn rhagor o ohebiaeth oddi wrth Ipsos.

Sylwer y gallech gael nodyn atgoffa gan eich prifysgol neu eich coleg am yr arolwg, hyd yn oed os ydych wedi cwblhau’r arolwg. Gall hyn ddigwydd oherwydd, er mwyn cynnal anhysbysrwydd, nid ydym yn rhoi manylion y myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r arolwg neu beidio. Golyga hyn na all eich prifysgol neu eich coleg dargedu eu negeseuon e-bost at fyfyrwyr sydd heb ymateb eto.

Os ydych yn parhau i gael negeseuon atgoffa gan Ipsos ac rydych yn credu bod gwall, cysylltwch ag Ipsos drwy: thestudentsurvey@ipsos.com.

Cymhwystra a Chyfranogiad

Gofynnir i’r holl fyfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau sy’n arwain at gredydau neu gymwysterau israddedig ac sy’n hirach nag un flwyddyn o astudio amser llawn neu’r hyn sy’n gyfwerth ar gwrs rhan-amser (fel graddau baglor, graddau sylfaen, Diplomâu Addysg Uwch) wneud yr arolwg yn eu blwyddyn olaf.

Bydd myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni rhan-amser mwy hyblyg (na ellir rhagweld yn hawdd pryd y byddant ar eu blwyddyn olaf) yn cymryd rhan fel arfer yn ystod eu pedwaredd flwyddyn o astudio. Noder y bydd myfyrwyr sydd wedi rhoi’r gorau i’w hastudiaethau yn ystod eu blwyddyn olaf yn cael eu cynnwys yn yr arolwg gan fod eu hadborth yr un mor werthfawr. Oni bai y nodir yn wahanol, bydd myfyrwyr sydd wedi ailadrodd blwyddyn neu sydd wedi newid trefniadau eu cwrs, ond yr oedd disgwyl iddynt raddio yn 2024 yn wreiddiol, yn cael eu harolygu yn y flwyddyn gyfredol o hyd. Ni fydd myfyrwyr a dderbyniwyd arolwg yn 2023 yn cael un yn 2024.

I wirio a ydych yn gymwys i gwblhau’r arolwg neu beidio, cliciwch yma.

Gallai rhai myfyrwyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf fod yn gymwys i gwblhau’r NSS. Os ydy Ipsos wedi cysylltu â chi i gymryd rhan yn yr arolwg, rydych yn gymwys ac mae eich adborth yn cael ei werthfawrogi.

Er mwyn gwirio eich cymhwystra, anfonwch e-bost at thestudentsurvey@ipsos.com.

Os yw Ipsos wedi cysylltu â chi i gwblhau’r arolwg eleni, yna rydych yn gymwys ac mae eich adborth yn cael ei werthfawrogi. Ystyrir yr holl fyfyrwyr y cysylltwyd â nhw eleni yn gymwys, beth bynnag oedd eu sefyllfa yn y flwyddyn flaenorol. Mae’n bosibl eich bod wedi gwneud yr arolwg y llynedd oherwydd gwall, neu roeddech wedi gwneud yr arolwg mewn perthynas â chwrs arall.

Bydd ymatebion i’r arolwg yn cael eu cadw’n gwbl gyfrinachol, ac mae’r holl ymatebion yn ddienw erbyn iddynt fod ar gael i’r brifysgol neu goleg er mwyn sicrhau na fydd unigolion yn cael eu hadnabod.

Siaradwch â prif gyswllt yr NSS yn eich prifysgol neu eich coleg, a fydd yn gallu gwirio’r rhestr o fyfyrwyr cymwys, a chysylltwch ag Ipsos drwy’r sianeli priodol.

Peidiwch ag anfon unrhyw wybodaeth am unigolyn ar e-bost i fewnflwch yr NSS; dim ond trwy allrwyd yr NSS, sydd wedi’i hamddiffyn â chyfrinair, y dylid trosglwyddo data am unigolyn drwy gyswllt NSS y brifysgol neu goleg.

Canlyniadau

Gellir lawrlwytho canlyniadau’r NSS o wefan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS), ond mae unrhyw sylwadau rydych yn eu gwneud yn ddienw ac ni chânt eu cyhoeddi, a dim ond eich prifysgol neu eich coleg y gellir gweld y rhain.

Dim ond data sy’n cydymffurfio â throthwyon cyhoeddi’r NSS (o leiaf deg ymateb myfyrwyr a chyfradd ymateb cyffredinol o 50 y cant) fydd yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd. Os nad oes data yn cael ei ryddhau ar gyfer cwrs penodol lle cwblhaodd myfyrwyr arolwg, golyga hyn nad oedd y data yn bodloni’r trothwy cyhoeddi hwn. Nid yw diffyg data cyhoeddadwy yn adlewyrchu ansawdd cwrs neu brifysgol neu goleg.

Bydd canlyniadau manwl yn cael eu darparu i brifysgolion a cholegau unigol drwy borth dosbarthu a ddarperir gan Texuna Technologies Ltd. Caiff y canlyniadau hyn eu defnyddio gan brifysgolion a cholegau er mwyn canfod beth sy’n mynd yn dda, lle y gellir gwneud gwelliannau, ac i wella’r profiad dysgu yn gyffredinol ar gyfer myfyrwyr y presennol a’r dyfodol.

Mae canlyniadau’r NSS hefyd yn cael eu cyhoeddi hefyd ar lefel cwrs ar wefan Darganfod Prifysgol, sydd wedi’i ddylunio i helpu darpar myfyrwyr i wneud y penderfyniad pwysig o beth i’w astudio mewn addysg uwch ac ymhle.

Cynllun ledled y DU a gaiff ei redeg gan y Swyddfa Fyfyrwyr ac sy’n amcanu at annog prifysgolion a cholegau i wella a chyflawni rhagoriaeth yn y meysydd sydd fwyaf o bwys i fyfyrwyr: addysgu, dysgu a chanlyniadau myfyrwyr yw’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF). Mae ymarfer newydd y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ar gyfer 2022-23 wedi lansio yn dilyn ymgynghoriad yn 2022. Gallwch ddarllen mwy am y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu mewn Canllaw i Fyfyrwyr ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Caiff sgoriau’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu eu penderfynu gan banel y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, sy’n cynnwys academyddion a myfyrwyr sy’n arbenigwyr mewn dysgu ac addysgu.

Mae’r dystiolaeth a gaiff ei hystyried gan banel y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu’n cynnwys:

  • tystiolaeth ysgrifenedig a ddarparwyd gan y brifysgol neu’r coleg
  • tystiolaeth ddewisol a ddarparwyd gan fyfyrwyr prifysgol neu goleg, trwy un ymateb annibynnol gan fyfyrwyr a gydlynir gan gyswllt enwebedig o blith y myfyrwyr
  • Data o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) a ffynonellau eraill

Mae rhagor o wybodaeth am y TEF ar gael ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS).

Astudiaeth feintiol yw’r NSS yn bennaf a dadansoddir y canlyniadau ar lefel gyfanredol. Caiff eich sylwadau eu troi’n ddienw a chaiff enwau unigolion eu dileu. Nid ymdrin â phryderon ymatebwyr ar lefel bersonol ac unigol yw bwriad y data. Os oes gennych bryderon am eich iechyd a lles eich hun neu rai eraill, dylech godi hyn gyda’ch gwasanaethau llesiant yn eich prifysgol neu eich coleg, gan y bydd hyn yn rhoi’r ymateb cyflymaf.

Dylanwadu’n amhriodol a hyrwyddo’r arolwg

Y diffiniad o ‘dylanwadu’n amhriodol’ yw:

‘Unrhyw weithgaredd a allai annog myfyrwyr i adlewyrchu unrhyw beth ac eithrio eu gwir farn o’u profiadau yn ystod eu cwrs yn eu hymatebion i’r NSS’.

Mae prifysgolion a cholegau’n aml yn hyrwyddo’r arolwg yn uniongyrchol i’w myfyrwyr mewn ystod o ffyrdd, ond dylai’r NSS adlewyrchu’r hyn yr ydych chi’n ei feddwl am eich cwrs. Ni ddylai eich prifysgol neu golwg ddylanwadu ar eich ymateb.

Gall y math hwn o ‘ddylanwadu’n amhriodol’ ddigwydd drwy:

  • e-bost
  • sesiynau wyneb yn wyneb a darlithoedd
  • posteri, deunyddiau a gweithgareddau
  • cyfathrebu rhwng myfyrwyr
  • cyfathrebu gan sefydliadau myfyrwyr, megis eich undeb y myfyrwyr.

Er mwyn i’r NSS fod yn ddefnyddiol, mae angen i gymaint o fyfyrwyr cymwys â phosibl gymryd rhan a gall hyrwyddo’r arolwg annog myfyrwyr i gwblhau’r arolwg.

Mae Ipsos yn rhedeg ymgyrch cyhoeddusrwydd cenedlaethol a gall prifysgolion a cholegau hyrwyddo’r arolwg a rhedeg eu hymgyrchoedd eu hunain gyda’u myfyrwyr a’u staff hefyd.

Gall prifysgolion a cholegau ddewis gwneud hyn mewn gwahanol ffyrdd:

  • hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol
  • gosod posteri o amgylch y campws
  • anfon negeseuon e-bost i fyfyrwyr cymwys i’w gwahodd i gwblhau’r arolwg
  • ymgysylltu ag adrannau a staff addysgu i roi gwybodaeth am yr NSS drwy sôn mewn darlithoedd
  • ymgysylltu â chyrff a chynrychiolwyr myfyrwyr i roi gwybodaeth am yr NSS
  • defnyddio lotrïau gwobrau, cymhelliannau neu gystadlaethau i annog cwblhau.

Gall prifysgolion a cholegau atgoffa myfyrwyr i gwblhau’r NSS ac i fyfyrio ar beth rydych yn ei feddwl o ansawdd eich cwrs. Fodd bynnag, nid yw annog myfyrwyr i ymateb mewn ffordd nad yw’n adlewyrchu eu gwir safbwyntiau o’u profiad yn dderbyniol. Ni ddylai eich prifysgol neu eich coleg ddylanwadu ar eich ymateb.

Y mathau o weithgareddau hyrwyddo y gall prifysgolion a cholegau eu gwneud:

  • Cynnal ymgyrch niwtral sy’n canolbwyntio ar gynyddu ymatebion yn yr NSS yn unig.
  • Darparu enghreifftiau o le mae adborth blaenorol wedi arwain at welliannau penodol mewn blynyddoedd blaenorol.
  • Annog myfyrwyr cymwys i gymryd rhan.
  • Caniatáu myfyrwyr i roi eu hadborth beth bynnag fo’u barn.
  • Defnyddiwch iaith niwtral wrth drafod yr NSS.
  • Targedu gwaith hyrwyddo at adrannau neu gyrsiau sydd â chyfraddau ymateb isel.
  • Hysbysu’r myfyrwyr eu bod yn rhydd i ddehongli cwestiynau’r arolwg fel y mynnent – mae cwestiynau’r NSS yn hunaneglurhaol.
  • Cynnal sesiynau gwirfoddol ar gyfer cwblhau’r NSS.
  • Sicrhau bod y myfyrwyr yn cael cwblhau’r arolwg yn gwbl breifat.
  • Defnyddio cymhelliannau neu lotri wobrau i hyrwyddo’r arolwg.
  • Sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o’r canllawiau.

Y mathau o weithgareddau hyrwyddo na all prifysgolion a cholegau eu gwneud:

  • Ymgorffori gweithgareddau marchnata’r NSS mewn gweithgareddau hyrwyddo ehangach, er enghraifft ymgyrchoedd ‘Pride’ ac ‘I Love’ – mae’n rhaid bod rhaniad clir.
  • Cyfuno’r NSS ag arolygon eraill sy’n cael eu cynnal yn y brifysgol neu goleg.
  • Cynghori myfyrwyr ar sut i ddehongli cwestiynau’r arolwg neu raddfa ymateb – dylech eu dehongli yn eich ffordd eich hun.
  • Cynghori neu ofyn i fyfyrwyr ymateb mewn ffordd benodol.
  • Gwneud cymryd rhan mewn lotri wobrau yn amodol ar gwblhau’r NSS.
  • Cysylltu’r NSS â thablau cynghrair, y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (TEF), rhagolygon swyddi a gwerth canfyddedig graddau myfyrwyr – ni ddylai prifysgolion neu golegau ddweud wrthych y gallai ymatebion negyddol i’r NSS wneud i’ch gradd edrych yn ddrwg i gyflogwyr yn y dyfodol.
  • Nodi bod yr arolwg yn orfodol.
  • Gorfodi neu roi pwysau ar fyfyrwyr i fynychu sesiynau penodol yr NSS.
  • Tywys myfyrwyr drwy’r arolwg – dylech fod yn cael preifatrwydd i ymateb yn onest.
  • Cwblhau’r arolwg ar ran y myfyriwr.

Os ydych yn meddwl bod eich prifysgol neu eich coleg yn dylanwadu’n amhriodol ar ymatebion myfyrwyr i’r NSS, anfonwch e-bost at NSSallegations@officeforstudents.org.uk.

Gellid codi pryderon ar unrhyw adeg, ond mae’n ddefnyddiol os cânt eu dwyn i sylw’r Swyddfa Fyfyrwyr cyn gynted â phosibl, yn arbennig tra bo’r arolwg yn weithredol rhwng mis Ionawr ac Ebrill, fel y gellir cymryd camau amserol.

Y Swyddfa Fyfyrwyr sy’n gyfrifol am reoli’r broses o ymchwilio i bryderon ynghylch dylanwadu’n amhriodol i sicrhau bod uniondeb data’r NSS yn cael ei gynnal.

Bydd pob pryder gyda manylder digonol yn cael ei ystyried gan ddefnyddio’r gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i honiadau o ddylanwadu’n amhriodol ar ganlyniadau’r arolwg. Gellir dod o hyd i ddogfen y weithdrefn ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) o dan Promotion of the NSS.

Os canfu ymchwiliad fod gweithgareddau hyrwyddo wedi torri’r canllawiau ynghylch dylanwadu’n amhriodol, p’un ai’n fwriadol neu’n anfwriadol, gellid cwestiynu uniondeb data’r NSS ac mae’n bosibl na fyddai’r Swyddfa Fyfyrwyr mewn partneriaeth â chyrff cyllido a rheoliadol y DU yn gallu cyhoeddi canlyniadau’r NSS ar gyfer y cyrsiau dan sylw yn y brifysgol neu goleg y flwyddyn honno.

Byddai hyn hefyd yn golygu na fyddai canlyniadau’r NSS ar gael i’w defnyddio mewn gweithgareddau marchnata, gwaith gwella dysgu neu ar gyfer eu cynnwys ar wefannau gyda gwybodaeth cymharu cyrsiau megis Darganfod Prifysgol a gwefan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS).

Preifatrwydd a Diogelu Data

Mae eich manylion cyswllt wedi cael eu darparu i Ipsos gan eich prifysgol neu eich coleg o dan awdurdod y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) ac ar ran gweddill cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU. Mae Ipsos wedi’i gomisiynu i gynnal yr NSS a bydd ond yn defnyddio manylion y myfyrwyr at ddiben yr arolwg hwn yn unig. Ar ôl cwblhau’r prosiect yn haf 2023, bydd manylion pob myfyriwr yn cael eu dileu o systemau Ipsos.

Mae Ipsos yn aelod o’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad ac ymdrinnir â’r holl fanylion ac atebion gan gydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth diogelu data.

Bydd eich atebion i’r arolwg yn cael eu cadw’n gyfrinachol, ac mae’r holl atebion yn ddienw erbyn iddynt gael eu darparu ar ffurf gwybodaeth ystadegol yn unig i’ch prifysgol neu goleg.

Os byddwch yn gwneud unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’ch llesiant corfforol neu feddyliol neu’n rhannu pryderon ynghylch diogelu yn yr atebion i gwestiynau sydd ar ffurf testun agored, sylwer na fydd eich prifysgol neu goleg yn gallu mynd ar ôl y rhain gyda chi oherwydd cyfrinachedd. Mae’n bwysig, os oes gennych bryderon ynghylch eich llesiant eich hun eich bod yn cysylltu â’ch darparwr i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

Defnyddir gwybodaeth mewn cydymffurfiaeth â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Darllenwch y Datganiad Preifatrwydd llawn am fwy o fanylion.

Mae cymryd rhan yn yr NSS yn wirfoddol. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan, gallwch optio allan o’r arolwg.

Os bydd Ipsos yn cysylltu â chi yn uniongyrchol unrhyw bryd (rhwng 11 Ionawr a 30 Ebrill), gallwch ddatgan nad ydych yn dymuno cymryd rhan ac ni fydd Ipsos yn cysylltu â chi eto. Sylwer, mae’n rhaid i chi fynd ati i optio allan os nad ydych yn dymuno cymryd rhan yn yr arolwg – nid yw anwybyddu’r e-bost neu’r cyfweliad dros y ffôn yn fodd o optio allan.

Os oes dull cysylltu sy’n well gennych, cewch hefyd ddewis optio allan o gamau penodol o’r arolwg (e.e. yr arolwg ar-lein) trwy glicio ar y ddolen optio allan, neu cewch optio allan o bob cam trwy glicio yma.

Mae’n rhaid i ni fod yn sicr o fanylion adnabod y myfyriwr sy’n optio allan. Felly, gofynnwn am yr un wybodaeth adnabod a roddir gan y rheiny sy’n ymateb i’r arolwg.

Rydym yn derbyn sylwadau ychwanegol i’r cwestiynau agored. Os hoffech wneud unrhyw sylwadau ychwanegol, cysylltwch â ni drwy thestudentsurvey@ipsos.com. Er mwyn atodi sylwadau ychwanegol i’r atebion a gyflwynwyd gennych i’r arolwg, sylwch y byddwn yn gofyn am wybodaeth ddilysu gennych.

Mae hawl gennych hefyd i ofyn i’ch cofnod o’r arolwg/ymchwil gael ei ddileu’n gyfan gwbl neu’n rhannol. Ond yn sgil amserlenni cyhoeddi, dylech wneud unrhyw geisiadau i newid atebion erbyn 30 Ebrill 2023. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar thestudentsurvey@ipsos.com.

Caiff y manylion cyswllt myfyriwr a ddarperir gan eich prifysgol neu goleg eu defnyddio gan Ipsos dim ond i’ch gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ac i wirio bod yr unigolion cywir yn ymateb i’r arolwg.

Bydd eich ymatebion i’r NSS yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil ac fe allent gael eu defnyddio hefyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr a chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o’u swyddogaethau statudol. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall eich ymatebion i’r NSS gael eu defnyddio gan y Swyddfa Fyfyrwyr i gyflawni ei swyddogaethau statudol, gweler hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y Swyddfa Fyfyrwyr yma.

Bydd ymatebion i’r NSS yn cael eu cadw gan y Swyddfa Fyfyrwyr mewn fformat sy’n eu rhoi dan ffugenw. Techneg i ddisodli neu waredu gwybodaeth sy’n datgelu pwy yw unigolyn yw rhoi dan ffugenw.  I gael rhagor o wybodaeth am gadw eich gwybodaeth bersonol, gweler yr adran ‘Am ba mor hir fydd fy ngwybodaeth bersonol yn cael ei chadw?’ isod.

Bydd canlyniadau NSS yr ymchwil hon y trefnir eu bod ar gael i brifysgolion a cholegau, yn ogystal ag yn gyhoeddus, yn cael eu gwneud yn ddienw ac yn cael eu darparu ar ffurf gwybodaeth ystadegol yn unig. Rydym yn cymryd camau i osgoi datgelu pwy yw unigolion mewn unrhyw ganlyniadau a gyhoeddir. Bydd eich cyfranogiad chi yn yr ymchwil hon, ynghyd â’ch ymatebion unigol i’r cwestiynau, yn cael ei gadw’n gwbl gyfrinachol yn unol â gofynion a safonau diogelwch gwybodaeth fel a gytunwyd rhwng Ipsos a’r Swyddfa Fyfyrwyr.

Gallwn hefyd eich sicrhau na fydd eich ymatebion unigol i’r NSS a sylwadau ar ffurf testun agored yn cael eu defnyddio ar gyfer marchnata. Fodd bynnag, caniateir i brifysgolion a cholegau aralleirio sylwadau a wnaed ar ffurf testun agored mewn deunyddiau marchnata o gwestiynau craidd yr NSS, cyn belled â nad yw’r testun yn datgelu pwy yw unrhyw unigolion, a bod y sylwadau ddim yn cael eu priodoli i’r NSS. Ni fyddwn yn gwerthu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd partïon.

Bydd darparwyr yn defnyddio sylwadau ar ffurf testun agored o’r NSS fel adborth ar eich profiad dysgu. Os byddwch yn gwneud unrhyw sylwadau am eich llesiant corfforol neu feddyliol neu’n rhannu pryderon ynghylch diogelu yn y sylwadau sydd ar ffurf testun agored, sylwer na fydd eich prifysgol neu goleg yn gallu mynd ar ôl y rhain gyda chi oherwydd cyfrinachedd. Ni ellir canfod pwy yw unigolion o’u hymatebion felly ni fydd prifysgolion a cholegau’n gwybod pwy sydd wedi rhoi’r adborth.

Mae’n bwysig, os oes gennych bryderon ynghylch diogelu neu eich llesiant eich hun eich bod yn cysylltu â’ch darparwr i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

Ar gyfer sefyllfa frys a/neu os oes perygl i fywyd sydd ar fin digwydd, cysylltwch â’r gwasanaethau brys ar 999.

Ar gyfer sefyllfa ddifrys, gallwch gysylltu â’r gwasanaethau canlynol i gael help a chyngor:

  • Yr Heddlu: gallwch gysylltu â hwy ar 101, sy’n llinell gymorth 24/7.
  • Y GIG: gallwch eu ffonio ar 111, sy’n llinell gymorth 24/7.
  • Y Samariaid: elusen sydd wedi’i neilltuo i leihau teimladau o arwahanrwydd a datgysylltiad a all arwain at hunanladdiad. Gallwch eu ffonio ar 116 123 sy’n llinell gymorth 24/7.
  • Student Minds: elusen iechyd meddwl myfyrwyr y DU. Gallwch ddod o hyd i gymorth ar y dudalen hon yn: https://www.studentminds.org.uk/findsupport.html
  • Student Space: llwyfan ar-lein sy’n darparu gwasanaethau cymorth a chyngor a gwybodaeth am fywyd myfyriwr. Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth ar y dudalen hon yn: https://studentspace.org.uk/
  • Mind: elusen iechyd meddwl sy’n cynnig cymorth dros y ffôn ar 0300 123 3393 neu ar-lein yn: https://www.mind.org.uk/information-support/helplines/
  • SHOUT 85258: gwasanaeth cymorth negeseuon testun 24/7 cyfrinachol, rhad-ac-am-ddim i unrhyw un sy’n ei chael yn anodd ymdopi: https://giveusashout.org/

Gwefan gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl y GIG: https://www.nhs.uk/mental-health/

Hyrwyddo’r NSS [ar gyfer prifysgolion a cholegau yn unig]

Mae canllawiau ynghylch hyrwyddo’r NSS ar gael yng Nghanllaw Arfer Da’r NSS. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ynghylch deunyddiau marchnata, cyfathrebiadau arfer gorau, hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth am dynnu enwau o het i gael gwobrau. Yn 2024, nid yw’n ofynnol i ddarparwyr yn Lloegr hyrwyddo’r NSS i’w myfyrwyr; fodd bynnag, gallant ddewis gwneud hynny os ydynt yn dymuno.

Gall prifysgolion a cholegau atgoffa myfyrwyr i gwblhau’r NSS ac i ystyried eu hymatebion yn ofalus.

Fodd bynnag, nid yw annog myfyrwyr i ymateb mewn ffordd nad yw’n adlewyrchu eu barn ddidwyll am eu profiad yn dderbyniol. Ni ddylai staff roi cyfarwyddyd penodol i fyfyrwyr ar sut i gwblhau’r arolwg, fel esbonio ystyron cwestiynau neu raddfa’r NSS. Yn benodol, ni ddylid defnyddio holiadur yr NSS fel y caiff ei weinyddu gan Ipsos ymhlith myfyrwyr cymwys yn yr un flwyddyn academaidd ag y byddant yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg gan Ipsos. Ni ddylid sefydlu unrhyw gyswllt rhwng ymatebion yr NSS a thablau cynghrair, na gwerth ymddangosiadol graddau myfyrwyr.

Mae’n hollbwysig fod yr arolwg yn cael ei hyrwyddo mewn ffordd ddiduedd a:

  • Bod pob myfyriwr yn cael ei dargedu mewn ffordd gyfartal er mwyn i bob myfyriwr cymwys gael cyfle i fynegi ei farn ar ei brofiad;
  • Bod yn rhaid i fyfyrwyr deimlo’n rhydd i roi eu hadborth gonest ar eu profiadau heb i’w prifysgol neu goleg ddylanwadu ar eu hymatebion;
  • Na ddylid gofyn i fyfyrwyr gwblhau’r arolwg tra bo aelod o staff yn eu harwain drwyddo neu’n goruchwylio eu hymatebion; ni ddylid gwneud i fyfyrwyr deimlo bod eu hymatebion yn cael eu monitro;
  • Na ddylid dylanwadu ar fyfyrwyr o ran sut y maent yn dehongli cwestiynau’r arolwg na’r raddfa ymatebion. Mae’r rhain wedi cael eu profi’n wybyddol ac maent yn hunanesboniadol felly dylid gadael i fyfyrwyr eu dehongli mewn ffordd sy’n addas yn eu tyb hwy;
  • Na ddylid gorfodi myfyrwyr i gwblhau’r arolwg, na gwneud iddynt deimlo y bydd goblygiadau os na fyddant yn ei gwblhau; ac
  • Na ddylid annog myfyrwyr neu ofyn iddynt ymateb mewn ffordd nad yw’n adlewyrchu eu profiad, e.e. ni ellir dweud wrthynt am beidio â defnyddio ymateb niwtral ‘Ddim yn cytuno nac yn anghytuno’.

Bydd y Swyddfa Fyfyrwyr a chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU yn ystyried unrhyw honiadau o geisiadau amhriodol i ddylanwadu ar ganlyniadau’r NSS yn fater difrifol iawn. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff uniondeb data’r NSS ei gynnal.

Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr yn gyfrifol am reoli’r broses am bryderon bod myfyrwyr wedi bod yn destun dylanwad amhriodol wrth gwblhau’r NSS ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU. Am fwy o wybodaeth am arferion da wrth hyrwyddo’r arolwg a sut i osgoi dylanwadu’n amhriodol, gweler Canllaw Arferion Da yr NSS. Am fwy o wybodaeth am weithdrefnau ymchwilio i honiadau o ddylanwadu’n amhriodol ar ganlyniadau’r arolwg, gweler https://www.officeforstudents.org.uk/advice-and-guidance/student-information-and-data/national-student-survey-nss/promotion-of-the-nss/

Os oes unrhyw agwedd ar y canllawiau hyn nad ydych yn siŵr ohoni, cysylltwch â’r unigolyn sy’n gyfrifol am yr NSS yn eich prifysgol neu eich coleg, neu gallwch anfon e-bost atom yn uniongyrchol drwy’r llinell gymorth NSS a byddem yn hapus i roi mwy o gyngor neu eglurhad.

Staff prifysgol a choleg sydd yn aml yn y lle gorau i gyfathrebu buddion a phwysigrwydd yr arolwg. Gallant siarad yn uniongyrchol â myfyrwyr am sut fydd y canlyniadau yn cael eu defnyddio gan y rheini sy’n edrych i symud i addysg uwch a sut cânt eu defnyddio i wella profiad y myfyriwr yn y brifysgol neu goleg yn fwy cyffredinol. Mae’n hollbwysig fod staff prifysgolion a cholegau yn pwysleisio gwrthrychedd wrth drafod yr NSS oherwydd y ffordd y bydd y canlyniadau’n cael eu defnyddio gan ddarpar fyfyrwyr, prifysgolion a cholegau, undebau myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill.

 

Efallai y bydd prifysgolion a cholegau’n dymuno defnyddio eu canlyniadau NSS mewn deunyddiau marchnata, i hyrwyddo cyrsiau neu’r darparwr yn gyffredinol. Caniateir hyn, ond ceir nifer o gyfyngiadau sy’n ddibynnol ar y math o ddata a rennir a’i ansawdd.

Mae’n rhaid glynu wrth y trothwyon cyhoeddi (cyfradd ymateb o o leiaf 50% ac o leiaf deg o fyfyrwyr) ar bob lefel. Ni ddylid cyhoeddi unrhyw ganlyniadau sydd o dan y trothwy hwn.

Gellir defnyddio canlyniadau’r NSS o ddata a gyhoeddwyd mewn deunyddiau marchnata a’u priodoli i’r NSS, ar yr amod fod y trothwyon cyhoeddi a grybwyllir uchod wedi’u bodloni.

Gellir hefyd defnyddio canlyniadau’r NSS o ddata sydd heb eu cyhoeddi, fel cwestiynau cronfa dewisol neu gwestiynau sy’n benodol i ddarparwr, mewn deunyddiau marchnata, ond ni ellir priodoli’r rhain i’r NSS.  Fodd bynnag, ni ddylid defnyddio sylwadau testun rhydd mewn deunyddiau cyhoeddus er mwyn cadw myfyrwyr yn ddienw. Rhaid bodloni’r trothwyon cyhoeddi a grybwyllir uchod ar gyfer y garfan y bydd ei chanlyniadau’n cael eu cyhoeddi.

Mae canlyniadau’r NSS yn ddarostyngedig i’r datganiad preifatrwydd, sy’n nodi bod sylwadau testun agored dienw ond yn cael eu rhannu â’r brifysgol neu’r coleg neu gorff cyllido neu reoleiddio perthnasol yn y DU ac nad ydynt yn cael eu cyhoeddi’n agored. Ni all prifysgolion a cholegau ddyfynnu sylwadau testun agored mewn deunyddiau marchnata.

Fodd bynnag, gellir aralleirio sylwadau testun agored o holiadur craidd yr NSS mewn deunyddiau marchnata, ar yr amod nad yw’r testun yn adnabod unrhyw unigolion ac nad yw’r sylwadau’n cael eu priodoli i’r NSS.

Ni ellir defnyddio sylwadau testun agored o’r cwestiynau cronfa dewisol neu’r cwestiynau sy’n benodol i ddarparwr ar unrhyw ffurf.

Ar hyn o bryd, er mwyn cyhoeddi canlyniadau, mae angen bodloni trothwy o ddeg ymatebydd a chyfradd ymateb o 50 y cant yn gyffredinol ac yn ôl pwnc. Mae data’r NSS yn dal i fod yn offeryn pwysig o ran helpu darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau am beth i’w astudio ac ymhle. Po fwyaf yw’r gyfradd ymateb, mwyaf yw’r tebygolrwydd y bydd data ar lefel cyrsiau ar gael yn gyhoeddus i’r myfyrwyr hyn.

Mae sawl ffordd o hybu yr NSS o fewn eich pwnc neu gwrs, gan gynnwys:

  • Atgoffa myfyrwyr blwyddyn olaf yn ystod darlithoedd
  • Trefnu sesiynau cyfrifiadur gwirfoddol
  • Ychwanegu erthyglau nodwedd am yr NSS i wefannau mewnrwyd / Moodle
  • Trafod yr NSS drwy wefannau cyfryngau cymdeithasol pynciau/cyrsiau
  • Anfon cyfathrebu dros e-bost wedi’i dargedu at fyfyrwyr cymwys
  • Cynnig lotrïau gwobrau mewnol i fyfyrwyr cymwys

Cyfeiriwch at Ganllaw Ymarfer Da’r NSS i gael canllawiau pellach.

Gellir cynnal sesiynau penodol ar unrhyw bryd yn ystod gwaith maes yr arolwg. Gall myfyrwyr fewngofnodi i www.thestudentsurvey.com a dewis yr opsiwn ‘Cymryd rhan yn yr Arolwg’. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fynychu’r sesiynau hyn o’u gwirfodd. Gallech hefyd drefnu sesiynau i gyd-daro â’r adeg pan fydd eu gwahoddiadau e-bost wedi’u personoli yn cael eu hanfon.

  • Wythnos 1 yr arolwg: trefnu sesiynau penodol ar y dydd Gwener neu’r dydd Llun canlynol
  • Wythnos 2 yr arolwg: trefnu sesiynau penodol ar y dydd Mawrth neu’r dydd Mercher
  • Wythnos 3 yr arolwg: trefnu sesiynau penodol ar y dydd Llun

Gall anfon negeseuon e-bost wedi’u targedu sy’n gwahodd myfyrwyr i gwblhau’r arolwg yn www.thestudentsurvey.com/cy/ fod yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, rydym yn argymell na ddylid anfon gormod o negeseuon atgoffa dros e-bost oherwydd gall hyn gael effaith negyddol. Sicrhewch eich bod yn cydlynu’r negeseuon e-bost hyn ag amserlen gwaith maes Ipsos er mwyn sicrhau nad ydynt yn gorgyffwrdd â gweithgareddau Ipsos. Dylai aelod o’r uwch-staff gytuno ar gynnwys yr e-bost. Ni ddylai unrhyw ddeunyddiau cyfathrebu a/neu ddeunyddiau marchnata darparwr geisio mewn unrhyw ffordd i ddylanwadu ar farn myfyrwyr (gweler canllaw arferion da yr NSS).

Cysylltwch â phrif gysylltiadau’r NSS yn eich prifysgol neu eich coleg er mwyn sicrhau y caiff negeseuon e-bost eu hanfon at fyfyrwyr cymwys yn unig.

Argymhellir ar gyfer prifysgolion a cholegau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon i arddangos deunyddiau hyrwyddo o amgylch eich prifysgol neu eich coleg cyn lansio’r arolwg ar 8 Ionawr 2024 (mae hyn yn ddewisol ar gyfer prifysgolion a cholegau yn Lloegr). Mae hyn er mwyn sicrhau ei fod yn weladwy i fyfyrwyr ac yn ffres yn eu meddyliau cyn iddynt gael eu gwahoddiadau e-bost. Bydd yr arolwg yn aros ar agor tan 30 Ebrill 2024. Parhewch i arddangos y deunyddiau tan y dyddiad hwn os gwelwch yn dda.

Cyswllt

Os oes gennych gwestiwn am yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr sydd heb ei ateb ar y wefan hon, yna anfonwch e-bost at un ai thestudentsurvey@ipsos.comnss@officeforstudents.org.uk neu cliciwch yma am dudalen gyswllt Ipsos.