|
14. 'Dw i eisoes wedi llenwi'r arolwg a
derbyniais nodyn atgoffa'n ddiweddar. Oes rhaid i mi
ei lenwi eto?
EOs
ydych wedi derbyn nodyn atgoffa oddi wrth Ipsos MORI
mae'n bosibl y bydd tri rheswm dros hyn:
- 'Dydyn ni ddim wedi
derbyn eich holiadur wedi'i lenwi; llenwch yr
arolwg eto os ydych chi'n cedu y dylen ni fod
wedi'i dderbyn erbyn hyn.
- Allen ni ddim cyfateb
eich manylion i'n cronfa ddata (sy'n cynnwys yr
holl fyfyrwyr sy'n gymwys i gymryd rhan) i ddilysu
eich hateb. Mae angen i ni sicrhau mai oddi
wrthych chi mae'r ateb a gawsom ni er mwyn ei
ddilysu. Llenwch yr arolwg eto a rhowch wybodaeth
adnabod gywir i ganiatáu i ni ddilysu eich hateb.
- 'Roedd eich hymateb yn y
post pan aethom ni ati i anfon nodyn atgoffa atoch
chi. Rydyn ni'n diweddaru ein cronfa ddata bob
dydd drwy gydol cyfnod yr arolwg i gyfyngu ar hyn,
ond mae rhai ymatebwyr yn llithro trwodd. Llenwch
yr arolwg eto os ydych chi'n meddwl y dylem ni fod
wedi'i dderbyn erbyn hyn.
Unwaith
y byddwch wedi cwblhau'r ACF ac mae'ch ymateb wedi
cael ei ddilysu, ni ddylech dderbyn rhagor o
ohebiaeth oddi wrth Ipsos MORI.
Sylwer ei bod yn bosibl y byddwch yn derbyn nodyn
atgoffa gan eich sefydliad. Mae hyn yn digwydd
oherwydd nad ydym yn rhoi gwybod iddynt pwy sydd
wedi ymateb i'r arolwg. Os byddwch yn parhau i
dderbyn nodiadau atgoffa, cysylltwch ag Ipsos MORI
drwy thestudentsurvey@ipsos.com
|