|
1. Beth yw’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF)?
Menter genedlaethol yw’r ACF, a gynhaliwyd bob blwyddyn ers 2005. Mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar draws yr holl Sefydliadau Addysg Uwch a gyllidir yn gyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a’r rhan fwyaf o Sefydliadau Addysg Uwch yn yr Alban. Yn ogystal, mae Colegau Addysg Bellach yn Lloegr a Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru sydd â myfyrwyr addysg uwch a gyllidir yn uniongyrchol yn gymwys i gymryd rhan.
Mae’r arolwg yn gofyn i fyfyrwyr sydd ar flwyddyn olaf cwrs gradd i ddarparu adborth ar eu cyrsiau mewn fformat a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae 23 o gwestiynau craidd, yn perthyn i’r agweddau canlynol o brofiad dysgu myfyrwyr:
- Addysgu ar fy Nghwrs
- Asesiad ac Adborth
- Cymorth Academaidd
- Trefniant a Rheolaeth
- Adnoddau Dysgu
- Datblygiad Personol
- Boddhad Cyffredinol
- Undeb y Myfyrwyr (Cymdeithas neu Urdd)
Hefyd, rhoddir y cyfle i fyfyrwyr wneud sylwadau cadarnhaol a/neu negyddol ar eu profiad dysgu fel myfyrwyr yn ei grynswth yn eu prifysgol/coleg. Os rhowch sylwadau ar ddiwedd yr holiadur, efallai y byddwn yn trosglwyddo’r rhain, yn ddienw, i’ch sefydliad i’w helpu i nodi sut mae nhw’n gallu gwneud gwelliannau. Er mwyn aros yn anhysbys, peidiwch â gwneud sylwadau:
- a allai alluogi rhywun i’ch hadnabod fel unigolyn
- sy’n enwi unigolion
- sy’n gwneud cyfeiriadau a allai ddatgelu pwy yw unigolyn, e.e. arweinydd cwrs, neu bennaeth adran
Mae rhai sefydliadau wedi dewis gofyn cwestiynau ychwanegol i’w myfyrwyr. Os ydych chi’n fyfyriwr mewn sefydliad o’r fath, dim ond ar ôl llenwi’r prif holiadur ar-lein y gofynnir i chi ateb y cwestiynau ychwanegol hyn.
Nid yw ateb y cwestiynau ychwanegol hyn yn orfodol a gallwch wrthod y gwahoddiad i ateb y cwestiynau hyn. Bydd eich hatebion ar gyfer prif holiadur ACF yn dal i gael eu hystyried. Dylai’r cwestiynau ychwanegol gymryd ychydig o funudau i’w cwblhau. Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu rhoi i sefydliad y myfyriwr a’r undebau myfyrwyr yn unig a ’dydyn nhw ddim ar gael yn gyhoeddus.
Holiadur Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
|