Home | Ynglyn A'r Acf Enter the survey | Mewn I'r Arolwg Institutions list | Sefydliadau Eligibility | Cymhwyster faqs | Cwestiynau Cyffredin Contact | Cysyllywch â Ni
English
Welsh

2. Sut mae canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio?

Defnyddir adborth myfyrwyr i grynhoi data cymharol flwyddyn ar ôl blwyddyn.

  1. Mae’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi i ddarpar fyfyrwyr a chynghorwyr i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ble a beth i’w astudio
    • Mae data o arolygon blaenorol ar gael ar hyn o bryd ar wefan Unistats
    • O fis Medi 2012 ymlaen, bydd y canlyniadau ar gael drwy’r dulliau canlynol:
      • Yn cael eu cyhoeddi ’yn eu cyd-destun’ ar wefannau prifysgolion a cholegau drwy ’declyn’ Set Gwybodaeth Allweddol. Graffigyn bach yw hwn sydd â thri darn o wybodaeth o’r Set Gwybodaeth Allweddol, sy’n benodol am y cwrs y mae’r defnyddiwr yn edrych arno
      • Yn cael eu cyhoeddi ar wefan swyddogol newydd sy’n galluogi defnyddwyr i chwilio am ddata Set Gwybodaeth Allweddol a data Unistats a’u cymharu (bydd gwefan Unistats yn cau o fis Medi 2012 ymlaen, pan fydd y wefan swyddogol newydd hon yn cael ei lansio)
      • Ar offeryn chwilio cwrs UCAS a ddatblygwyd (Chwilotwr Cwrs), a fydd yn cynnwys y data Set Gwybodaeth Allweddol er mwyn i ddefnyddwyr weld y data a’r cyrsiau y mae ganddynt ddiddordeb mewn gwneud cais amdanynt ar yr un pryd.
  2. Mae prifysgolion, undebau myfyrwyr neu golegau hefyd yn defnyddio’r canlyniadau yn fewnol er mwyn hwyluso arfer gorau a gwella profiad dysgu’r myfyrwyr.

Cwestiynau Cyffredin
  1. Beth yw’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF)?
  2. Sut mae canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio?
  3. Pwy sy’n gyfrifol am yr arolwg?
  4. Pryd a sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal?
  5. I bwy y gofynnir iddynt i gymryd rhan yn yr arolwg?
  6. Beth sy’n cael ei ofyn yn yr arolwg?
  7. Pwy sydd â mynediad at fanylion cyswllt myfyrwyr cymwys?
  8. Ydy f’atebion yn ddienw?
  9. Sut gallaf i gymryd rhan yn yr arolwg?
  10. Allaf i ddewis y dull sydd orau gen i ar gyfer ail-gysyltu er mwyn cwblhau’r arolwg?
  11. Gaf i optio allan o’r arolwg?
  12. Pa mor hir fydd Ipsos MORI yn dal manylion cyswllt y myfyrwyr? Pryd fydd y data’n cael ei ddinistrio?
  13. O ble cafodd Ipsos MORI fy manylion cysylltu?
  14. ‘Dw i eisoes wedi llenwi’r arolwg ac yn ddiweddar derbyniais i nodyn atgoffa. Oes rhaid i mi ei lenwi eto?
  15. ‘Dw i ddim yn fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr a ches i wahoddiad i gymryd rhan yn yr ACF. Ddylwn i gymryd rhan yn yr arolwg?
  16. Llenwais i’r arolwg yn 2011 – pam y gofynnir i mi ei lenwi eto?
  17. Sut mae canlyniadau’r arolwg o’r chwe mlynedd blaenorol wedi cael eu defnyddio?
  18. Pam ydw i wedi cael cwestiynau gwahanol i bobl eraill?
  19. Ydy hi’n bosibl i mi newid neu dynnu’n ôl fy ymatebion i’r arolwg?
Ipsos MORI | HEFCE | NUS