Skip navigation.

Cwestiynau Cyffredin am yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

  1. Beth yw’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF)?
  2. Sut mae canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio?
  3. Pwy sy’n gyfrifol am yr arolwg?
  4. Pryd a sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal?
  5. I bwy y gofynnir iddynt i gymryd rhan yn yr arolwg?
  6. Beth sy’n cael ei ofyn yn yr arolwg?
  7. Pwy sydd â mynediad at fanylion cyswllt myfyrwyr cymwys?
  8. Ydy f’atebion yn ddienw?
  9. Sut gallaf i gymryd rhan yn yr arolwg?
  10. Allaf i ddewis y dull sydd orau gen i ar gyfer ail-gysyltu er mwyn cwblhau’r arolwg?
  11. Gaf i optio allan o’r arolwg?
  12. Pa mor hir fydd Ipsos MORI yn dal manylion cyswllt y myfyrwyr? Pryd fydd y data’n cael ei ddinistrio?
  13. O ble cafodd Ipsos MORI fy manylion cysylltu?
  14. Dwi eisoes wedi llenwi’r arolwg ac yn ddiweddar derbyniais i nodyn atgoffa. Oes rhaid i mi ei lenwi eto?
  15. Dwi ddim yn fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr a ches i wahoddiad i gymryd rhan yn yr ACF.  Ddylwn i gymryd rhan yn yr arolwg?
  16. Llenwais i’r arolwg yn 2009 - pam y gofynnir i mi ei lenwi eto?
  17. Sut mae canlyniadau’r arolwg o’r pum mlynedd blaenorol wedi cael eu defnyddio?
  18. Pam ydw i wedi cael cwestiynau gwahanol i bobl eraill?
  19. Pa sefydliadau sy’n cymryd rhan yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2010?
  20. Ydy hi’n bosibl i mi newid neu dynnu’n ôl fy ymatebion i’r arolwg?

1. Beth yw’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF)?

Menter genedlaethol yw’r ACF, a gynhaliwyd bob blwyddyn ers 2005.  Cynhelir yr arolwg ar draws yr holl Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) a gyllidir yn gyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a SAUau sy’n cymryd rhan yn Yr Alban.  Yn ogystal â hyn, ers 2008, mae Colegau Addysg Bellach (CAB) sydd â myfyrwyr addysg uwch a gyllidir yn uniongyrchol yn Lloegr wedi bod yn gymwys i gymryd rhan.

Mae’r arolwg yn gofyn i fyfyrwyr sydd ar flwyddyn olaf cwrs gradd a myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf o gwrs sy’n arwain at gredydau neu gymwysterau israddedig i ddarparu adborth ar eu cyrsiau mewn fformat a gydnabyddir yn genedlaethol.  Mae 22 o gwestiynau, yn perthyn i’r agweddau canlynol ar brofiad dysgu myfyrwyr:

Hefyd, rhoddir y cyfle i fyfyrwyr ysgrifennu sylwadau cadarnhaol a/neu negyddol ar eu profiad dysgu fel myfyrwyr yn ei grynswth yn eu prifysgol/coleg.  Os rhowch sylwadau ar ddiwedd yr holiadur, efallai y byddwn yn trosglwyddo’r rhain, yn ddienw, i’ch sefydliad i’w helpu i nodi sut mae nhw’n gallu gwneud gwelliannau.  Er mwyn aros yn ddienw, peidiwch â gwneud sylwadau: Mae rhai sefydliadau wedi dewis gofyn cwestiynau ychwanegol i’w myfyrwyr. Os ydych chi’n fyfyriwr mewn sefydliad fel hwn, dim ond ar ôl llenwi’r prif holiadur ar-lein y gofynnir i chi ateb y cwestiynau ychwanegol hyn.

Nid yw ateb y cwestiynau ychwanegol hyn yn orfodol a gall myfyrwyr wrthod y gwahoddiad i ateb y cwestiynau hyn. Bydd eich atebion ar gyfer prif holiadur ACF yn dal i gael eu hystyried. Dylai’r cwestiynau ychwanegol gymryd ychydig o funudau i’w cwblhau. Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu rhoi i sefydliad y myfyriwr a’r undebau myfyrwyr yn unig a dydyn nhw ddim ar gael yn gyhoeddus.

Holiadur Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


2. Sut mae canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio?

Trefnir bod y canlyniadau o’r prif 22 o gwestiynau ar gael ar gyfer darpar fyfyrwyr a’u cynghorwyr ar Unistats.com i’w helpu i wneud dewisiadau hysbys ynghylch beth a lle i astudio.

Trefnir bod y canlyniadau ar gael hefyd i brifysgolion, colegau ac undebau myfyrwyr sy’n cymryd rhan i’w defnyddio i hwyluso arfer gorau ac i wella’r profiad dysgu myfyrwyr.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


3. Pwy sy’n gyfrifol am yr arolwg?

Mae’r arolwg wedi’i gomisiynu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yr Adran Gyflogaeth a Dysgu (DEL Gogledd Iwerddon), yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu a Sgiliau ar gyfer Iechyd. Mae rôl statudol gan y cyrff hyn i sicrhau yr asesir ansawdd addysgu mewn addysg uwch, ac maen nhw’n credu y dylai barnau myfyrwyr ffurfio rhan bwysig o’r asesiad.

Mae’r arolwg yn cael cefnogaeth lawn gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM), UCM-Cymru, ac NUS-USI (Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr - Undeb Myfyrwyr Iwerddon).

Ipsos MORI, asiantaeth ymchwil annibynnol, sy’n gweinyddu’r arolwg. Mae holl waith Ipsos MORI yn cael ei wneud yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a Rheolau Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


4.Pryd a sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal?

Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu llenwi’r arolwg rhwng 11 Ionawr a diwedd Ebrill 2010. Bydd myfyrwyr cymwys hefyd yn cael e-bost cyn diwedd Chwefror 2010, yn eu gwahodd i lenwi’r arolwg ar-lein.

Os nad ydych eto wedi cael e-bost, ac rydych yn gymwys (cyfeiriwch at Gwestiwn Cyffredin 5 am ragor o fanylion), gallwch lenwi’r arolwg nawr.

Bydd Ipsos MORI yn anfon llythyr at y rhai sydd ddim yn ateb ac yna eu ffonio er mwyn i ni gasglu barn cymaint o fyfyrwyr ag y bo modd i sicrhau bod canlyniadau’r arolwg yn gadarn. Mae myfyrwyr yn gallu optio allan o’r arolwg os ydyn nhw am wneud hynny.

Mae’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar Unistats.com ar gyfer darpar fyfyrwyr a’u cynghorwyr. Hefyd, trefnir bod y canlyniadau ar gael i’r prifysgolion, colegau ac undebau myfyrwyr sy’n cymryd rhan i helpu i hwyluso arfer gorau a gwella profiad dysgu’r myfyrwyr.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


5. I bwy y gofynnir i gymryd rhan yn yr arolwg?

Bydd yr holl fyfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau sy’n arwain at gredydau neu gymwysterau israddedig (megis Graddau Baglor, Graddau Sylfaen, Tystysgrifau a Diploma Addysg Uwch) yn cael eu harolygu yn eu blwyddyn astudio olaf. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr addysg uwch mewn colegau yn Lloegr.

Yn ychwanegol:

Cynhelir yr arolwg ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r prifysgolion canlynol yn Yr Alban hefyd wedi dewis cymryd rhan yn yr arolwg eleni: Mae Prifysgol Buckingham, sefydliad preifat, hefyd wedi dewis cymryd rhan.

Bydd myfyrwyr sy’n astudio pynciau’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn parhau i gymryd rhan yn arolwg 2010.

Os nad ydych chi’n si?r a ydych chi’n gymwys i gymryd rhan, cewch lenwi’r arolwg, bydd Ipsos MORI yn gwirio a dilysu’ch ateb. Bydd Ipsos MORI yn cysylltu â’r holl fyfyrwyr cymwys sydd heb lenwi’r arolwg erbyn Ebrill 2010 fan pellaf.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


6. Beth sy’n cael ei ofyn yn yr arolwg?

Mae’r arolwg yn gofyn i israddedigion blwyddyn olaf a myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf o gwrs sy’n arwain at gredydau neu gymwysterau israddedig roi adborth ar eu cyrsiau mewn fformat a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae 22 o gwestiynau, yn perthyn i’r agweddau canlynol o’r profiad dysgu myfyrwyr:

Hefyd, rhoddir y cyfle i fyfyrwyr ysgrifennu sylwadau cadarnhaol a/neu negyddol ar eu profiad dysgu fel myfyrwyr yn ei grynswth yn eu prifysgol/coleg. Os rhowch sylwadau cadarnhaol ar ddiwedd yr holiadur, efallai y byddwn yn trosglwyddo’r rhain, yn ddienw, i’ch sefydliad i’w helpu i nodi sut y gallant wneud gwelliannau. Er mwyn aros yn ddienw, peidiwch â gwneud sylwadau: Mae rhai sefydliadau wedi dewis gofyn cwestiynau ychwanegol i’w myfyrwyr. Os ydych chi’n fyfyriwr mewn sefydliad fel hwn, dim ond ar ôl llenwi’r prif holiadur ar-lein y gofynnir i chi ateb y cwestiynau ychwanegol hyn.

Nid yw ateb y cwestiynau ychwanegol hyn yn orfodol a gall myfyrwyr wrthod y gwahoddiad i ateb y cwestiynau hyn. Bydd eich atebion ar gyfer prif holiadur ACF yn dal i gael eu hystyried. Dylai’r cwestiynau ychwanegol gymryd ychydig o funudau i’w cwblhau. Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu rhoi i sefydliad y myfyriwr a’r undebau myfyrwyr yn unig a dydyn nhw ddim ar gael yn gyhoeddus.

Holiadur Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


7. Pwy sydd â mynediad at fanylion cyswllt myfyrwyr cymwys?

Mae prifysgolion a cholegau sy’n cymryd rhan wedi trosglwyddo manylion cyswllt ar gyfer myfyrwyr cymwys i Ipsos MORI, yr asiantaeth ymchwil sy’n gyfrifol am gynnal yr arolwg, o dan awdurdod HEFCE ar ran y cyrff cyllido eraill.

Mae Ipsos MORI yn aelod o’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad a bydd yr holl fanylion ac atebion yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Bydd data personol myfyrwyr yn cael ei ddefnyddio at ddiben yr arolwg hwn yn unig, a bydd manylion cyswllt yn cael eu dinistrio ar ddiwedd yr arolwg.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


8. Ydy f’atebion yn ddienw?

Ydyn, bydd canlyniadau’n cael eu cyflwyno ar ffurf crynodebau ystadegol wedi’u hadrodd yn ôl sefydliad, cwrs neu adran. Bydd y crynodebau hyn yn cael eu cyflwyno dim ond pan fydd digon o atebion i gadw’r unigolion yn ddienw.

Bydd Ipsos MORI a HEFCE yn cadw’r holl atebion unigol yn gyfrinachol. Ni fydd myfyrwyr unigol sy’n cymryd rhan yn yr arolwg yn cael eu hadnabod gan eu sefydliad ar unrhyw adeg.

Am ragor o fanylion ynghylch sut bydd atebion myfyrwyr i’r arolwg yn cael eu trin, gweler y Datganiad Preifatrwydd.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


9. Sut galla i gymryd rhan yn yr arolwg?

Os ydych chi’n:

Gofynnir i chi am ddata personol er mwyn gwirio eich bod yn gymwys i gymryd rhan.  Rhowch yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan na fydd eich hymatebion yn cael eu hystyried oni fydd eich holl wybodaeth bersonol yn gywir.  Os nad yw’ch gwybodaeth bersonol yn gywir, efallai y byddwn yn ailgysylltu â chi i ddilysu’ch ateb.  Ar ôl i chi lenwi’r arolwg ddylai neb gysylltu â chi eto ac ni ddylech gael rhagor o nodiadau atgoffa.

Mae’r arolwg ar-lein yn gysylltiedig â chronfa ddata fyw o fyfyrwyr cymwys.  Mae ein cronfa ddata’n cael ei diweddaru’n rheolaidd.  Os ydych chi’n dal i dderbyn nodyn atgoffa, gallai hyn fod oherwydd nad oedd yn bosibl i ni gyfateb y manylion a roddoch chi i’r rhai a roddwyd gan eich sefydliad, neu oherwydd fod eich hymateb yn y post pryd yr aethom ati i ailgysylltu â chi.  Byddwn yn ceisio cysylltu â chi trwy’r e-bost, yna os na chawn ni ateb gennych chi, trwy’r post ac yna dros y ffôn.

Caiff preifatrwydd myfyrwyr ei barchu. Ni fydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu priodoli i atebwyr unigol a byddan nhw’n cael eu hadrodd yn ôl sefydliad, pwnc neu adran yn unig.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


10. Allaf i ddewis y dull sydd orau gen i ar gyfer ail-gysylltu er mwyn cwblhau’r arolwg?

Cewch, gallwch ddewis sut y byddai orau gennych i fynd ati i gwblhau’r arolwg.

Mae’r arolwg yn defnyddio cyfres o ddulliau cysylltu i wahodd myfyrwyr i gymryd rhan yn yr arolwg. Y dull cyntaf a ddefnyddir gan Ipsos MORI yw e-bost.  Serch hynny, gallwch gwblhau’r arolwg arlein nawr, ac ni fydd angen i ni gysylltu â chi. Byddwn yn anfon holiadur drwy’r post neu yn ffonio’r rheiny sydd ddim wedi ymateb neu wedi optio allan.  Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn ail-gysylltu â rhai myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r arolwg i dilysu eu hymateb os nad yw’r wybodaeth adnabyddiaeth maent wedi ei darparu yn gywir, neu os nad yw yn ein caniatáu i’w dileu o gronfa-ddata’r rheiny sydd wedi ymateb.

Cofrestrwch Eich Dull Cysylltu Mwyaf Ffafriol ac os nad ydym wedi cysylltu a chi yn barod, fe allwch wedyn ddewis eich dull mwyaf ffafriol o lenwi'r arolwg.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


11. Gaf i optio allan o’r arolwg?

Cewch, os nad ydych chi eisiau cymryd rhan am ryw reswm, cewch optio allan o’r arolwg.

Ar unrhyw adeg mae Ipsos MORI yn anfon e-bost atoch chi neu’n cysylltu â chi’n uniongyrchol, cewch ateb a dweud nad ydych chi am gymryd rhan.  Ni fydd unrhyw un yn cysylltu â chi eto.  Rhaid i chi optio allan yn weithredol os nad ydych chi eisiau cael eich arolygu; nid ystyrir peidio ag ateb i’r e-bost, yr holiadur post na’r cyfweliad ffôn i fod yn optio allan.

Mae angen i ni fod yn siŵr pwy yw’r myfyriwr sy’n optio allan.  Felly, rydyn ni’n gofyn am yr un wybodaeth adnabyddiaeth ag ar gyfer y rhai sy’n ymateb i’r arolwg.  I optio allan o’r arolwg nawr, cliciwch ar y ddolen Optio allan ar y waelod y dudalen ar y chwith.  Byddwch yn gallu optio allan yn ystod camau penodol o’r ACF (e.e. yr arolwg ar-lein), neu o’r camau i gyd.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


12. Pa mor hir fydd Ipsos MORI yn dal manylion cyswllt y myfyrwyr? Pryd fydd y data’n cael ei ddinistrio?

Bydd manylion cyswllt yn cael eu tynnu oddi ar yr holl systemau cyfrifiadurol gan Ipsos MORI pan na fydd eu hangen bellach ar gyfer cysylltu â myfyrwyr ynghylch yr AMC, ac erbyn Mai 2010 fan bellaf. Bydd Ipsos MORI yn trosglwyddo’r holl ddata arall (gan gynnwys atebion myfyrwyr) i HEFCE cyn Gorffennaf 2010 fan bellaf, a byddwn ni ond yn dal data dienw nes i’r broses adrodd gael ei chyflawni. Ni fydd yr un data’n cael ei ddal wedi hynny.

Bydd HEFCE yn defnyddio’r data hwn ar gyfer dadansoddi, a bydd yn defnyddio ymchwilwyr dan gontract a fydd â mynediad at y data am gyfnod penodedig er mwyn cynnal y dadansoddiad a rhoi adborth cyfun i sefydliadau. Bydd yr ymchwilwyr hyn yn dinistrio’r data ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau. Bydd HEFCE yn cadw’r data am unrhyw ymchwil bellach neu barhaol, fel maen nhw’n gwneud am ddata personol arall (megis cofnodion Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a data DLHE). Ni fydd HEFCE yn cael unrhyw fanylion cyswllt myfyrwyr. Bydd yn storio data arall (atebion myfyrwyr sy’n gysylltiedig â chofnodion myfyrwyr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)) yn electronig ar system ddiogel, yn yr un ffordd ag mae data personol arall (megis cofnodion HESA a data DLHE) yn cael ei storio.

Darllenwch y Datganiad Preifatrwydd ar yr AMC am fwy o fanylion.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


13. O ble cafodd Ipsos MORI fy manylion cyswllt?

Mae’ch manylion cyswllt wedi’u rhoi i Ipsos MORI gan eich prifysgol/coleg o dan awdurdod HEFCE.  Mae Ipsos MORI wedi’i gomisiynu i gynnal yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, ac mae’n defnyddio manylion myfyrwyr at ddiben yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn unig.  Bydd holl fanylion myfyrwyr yn cael eu tynnu o systemau cyfrifiadurol Ipsos MORI pan fydd y prosiect wedi’i gwblhau.

Darllenwch y Datganiad Preifatrwydd ar yr AMC am fwy o fanylion.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


14. Dwi eisoes wedi llenwi’r arolwg ac yn ddiweddar derbyniais i nodyn atgoffa.  Oes rhaid i mi ei lenwi eto?

Efallai bod tri rheswm am hyn:

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


15. Dwi ddim yn fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr a ches i wahoddiad i gymryd rhan yn yr ACF.  Ddylwn i gymryd rhan yn yr arolwg?

Mae yno ychydig o eithriadau lle gallai rhai myfyrwyr sydd ddim yn eu blwyddyn olaf fod yn gymwys i gymryd rhan yn yr arolwg hwn.  Felly, os yw Ipsos MORI wedi cysylltu â chi i gymryd rhan yn yr arolwg, rydych chi’n gymwys a hoffem ni ddrbyn eich hymateb.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


16. Llenwais i’r arolwg yn 2009 - pam y gofynnir i mi ei lenwi eto?

Os cysylltwyd â chi i lenwi’r arolwg eleni, rydych chi’n gymwys a hoffem ni i chi lenwi’r arolwg.  Efallai nad oeddech chi’n gymwys y llynedd a chawsoch eich cynnwys yn anfwriadol.  Ni fyddai eich hymatebion wedi cael eu hystyried y llynedd.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


17. Sut mae canlyniadau’r arolwg o’r pedair blynedd blaenorol wedi cael eu defnyddio?

Trefnir bod y canlyniadau ar gael i ddarpar fyfyrwyr a’u cynghorwyr ar Unistats.com i’w helpu nhw i wneud dewisiadau hysbys ynghylch beth a lle i astudio. Hefyd, trefnir bod y canlyniadau ar gael i brifysgolion, colegau ac undebau myfyrwyr sy’n cymryd rhan i’w defnyddio i hwyluso arfer gorau ac i wella profiad dysgu’r myfyrwyr.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


18. Pam ydw i wedi cael cwestiynau gwahanol i bobl eraill?

Mae rhai prifysgolion a cholegau wedi dewis gofyn cwestiynau ychwanegol i’w myfyrwyr mewn meysydd sy’n berthnasol i’w profiad dysgu penodol nhw. Rhoddir y dewis i fyfyrwyr a ydyn nhw eisiau parhau i ateb y cwestiynau hyn ar ôl iddyn nhw lenwi’r prif holiadur AMC ar-lein. Os ydych chi’n dewis peidio â chwblhau’r modiwlau ychwanegol, a ddylai gymryd ychydig o funudau, yna bydd eich atebion i’r prif arolwg yn dal i gael eu hystyried. Mae modiwlau’r cwestiynau ychwanegol yn cael eu gofyn dim ond os ydych chi’n llenwi’r arolwg ar-lein.

Mae myfyrwyr sy’n astudio pynciau GIG yn ymgymryd â lleoliadau ymarfer, felly mae eu profiad o addysg uwch ychydig yn wahanol. Felly, yn ychwanegol at y 22 o gwestiynau safonol, mae myfyrwyr sy’n astudio pynciau GIG yn cael cwestiynau ychwanegol am leoliad eu hymarfer.

Holiadur Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


19. Pa sefydliadau sy’n cymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2010?

SEFYDLIADAU ADDYSG UWCH (SAU) SEFYDLIADAU ADDYSG BELLACH (SAB)
Aberdeen (University of)Accrington and Rossendale College
Prifysgol AberystwythAskham Bryan College
Anglia Ruskin UniversityBarking College
Arts University College at BournemouthBasingstoke College of Technology
Aston UniversityBedford College
Prifysgol BangorBexley College
Bath (University of)Birmingham Metropolitan College
Bath Spa UniversityBishop Burton College
Bedfordshire (University of)Blackburn College
Birkbeck CollegeBlackpool and The Fylde College
Birmingham (University of)Bolton College
Birmingham City UniversityBoston College
Bishop Grosseteste University College, LincolnBradford College
Bolton (University of)Bridgwater College
Bournemouth UniversityBrooklands College
Bradford (University of)Burton upon Trent College
Brighton (University of)Calderdale College
Bristol (University of)Carlisle College
Brunel UniversityCastle College
Buckingham (University of)Central Sussex College
Buckinghamshire New UniversityChesterfield College
Cambridge (University of)Chichester College
Canterbury Christ Church UniversityCity College, Birmingham
Prifysgol CaerdyddCity College, Coventry
Central Lancashire (University of)City of Bath College
Central School of Speech and DramaCity of Sunderland College
Chester (University of)City of Westminster College
Chichester (University of)Cleveland College of Art and Design
City University, LondonCollege of North West London
Conservatoire for Dance and DramaCraven College
Courtauld Institute of ArtCroydon College
Coventry UniversityDearne Valley College
Cumbria (University of)Doncaster College
De Montfort UniversityDudley College of Technology
Derby (University of)Ealing Hammersmith & West London College
Dundee (University of)East Riding College
Durham (University of)East Surrey College
East Anglia (University ofEastleigh College
East London (University of)Exeter College
Edge Hill UniversityFarnborough College of Technology
Edinburge Napier UniversityFilton College
Edinburgh (University of)Gateshead College
Essex (University of)Gloucestershire College
Exeter (University of)Grimsby Institute
Prifysgol MorgannwgGuildford College of Further & Higher Education
Glasgow (University of)Havering College of Further & Higher Education
Glasgow Caledonian UniversityHenley College Coventry
Glasgow School of ArtHereford College of Arts
Gloucestershire (University of)Herefordshire College of Technology
Prifysgol GlyndŵrHighbury College, Portsmouth
Goldsmiths College, University of LondonHopwood Hall College
Greenwich (University of)Hull College
Guildhall School of Music & DramaJoseph Priestley College
Harper Adams University CollegeKirklees College
Heriot Watt UniversityLakes College - West Cumbria
Hertfordshire (University of)Leeds City College
Heythrop CollegeLeeds College of Art
Huddersfield (University of)Leek College of FE & School of Art
Hull (University of)Leicester College
Imperial College LondonLewisham College
Institute of EducationLincoln College
Keele UniversityLiverpool Community College
Kent (University of)Loughborough College
King's College LondonMacclesfield College
Kingston UniversityManchester College
Prifysgol Llanbedr Pont SteffanMid-Cheshire College of Further Education
Lancaster UniversityMoulton College
Leeds (University of)New College Stamford
Leeds College of MusicNew College, Durham
Leeds Metropolitan UniversityNew College, Nottingham
Leeds Trinity University CollegeNew College, Telford
Leicester (University of)Newcastle College
Lincoln (University of)Newcastle-under-Lyme College
Liverpool (University of)North East Surrey College of Technology
Liverpool Hope UniversityNorth East Worcestershire College
Liverpool Institute for Performing ArtsNorth Lindsey College
Liverpool John Moores UniversityNorth Warwickshire and Hinckley College
London Metropolitan UniversityNorthbrook College, Sussex
London School of Economics and Political ScienceNorthumberland College
London South Bank UniversityOxford and Cherwell Valley College
Loughborough UniversityPlymouth College of Art
Manchester (University of)Riverside College
Manchester Metropolitan UniversityRotherham College of Arts and Technology
Middlesex UniversityRuskin College
Newcastle UniversitySheffield College
Newman University CollegeShrewsbury College of A&T
Northampton (University of)Solihull College
Northumbria at Newcastle (University of)Somerset College of Arts and Technology
Norwich University College of the ArtsSouth Cheshire College
Nottingham (University of)South Downs College
Nottingham Trent UniversitySouth Nottingham College
Open UniversitySouth Staffordshire College
Oxford (University of)South Tyneside College
Oxford Brookes UniversitySouthampton City College
Plymouth (University of)Sparsholt College, Hampshire
Portsmouth (University of)St Helens College
Queen Mary, University of LondonStafford College
Queen's University BelfastStephenson College
Ravensbourne College of Design and CommunicationStockport College
Reading (University of)Stoke-on-Trent College
Robert Gordon UniversityStourbridge College
Roehampton UniversityStratford upon Avon College
Rose Bruford CollegeSwindon College
Royal Academy of MusicTameside College
Royal Agricultural CollegeTrafford College
Royal College of MusicTyne Metropolitan College
Royal Holloway, University of LondonUxbridge College
Royal Northern College of MusicWakefield College
Royal Veterinary CollegeWalford and North Shropshire College
Salford (University of)Walsall College
School of Oriental and African StudiesWarwickshire College
School of PharmacyWest Kent College
Sheffield (University of)West Nottinghamshire College
Sheffield Hallam UniversityWest Thames College
Southampton (University of)Westminster Kingsway College
Southampton Solent UniversityWigan and Leigh College
St Andrews(University of)Wiltshire College
St George's, University of LondonWirral Metropolitan College
St Mary's University College, BelfastWorcester College of Technology
St Mary's University College, TwickenhamYork College
Staffordshire UniversityYorkshire Coast College of Further & Higher Education
Stirling (University of)
Stranmillis University College
Strathclyde (University of)
Sunderland (University of)
Surrey (University of)
Sussex (University of)
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Prifysgol Abertawe
Teesside (University of)
Thames Valley University
Trinity Laban
Coleg y Drindod Caerfyrddin
Ulster (University of)
University Campus Suffolk
University College Birmingham
University College Falmouth
University College for the Creative Arts
University College London
University College Plymouth St Mark & St John
University of Arts London
University of West of England, Bristol
Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Warwick (University of)
Westminster (University of)
Winchester (University of)
Wolverhampton (University of)
Worcester (University of)
Writtle College
York (University of)
York St John University

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon


20. Ydy hi’n bosibl i mi newid neu dynnu’n ôl fy ymatebion i’r arolwg?

Nag ydy, nid yw’n bosibl i chi newid na thynnu’n ôl eich hymatebion i’r arolwg unwaith y byddant wedi cael eu hanfon.

Mynd yn ôl i ben y dudalen hon