Skip navigation.

Croeso i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2010

Ym mis Ionawr, caiff yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) 2010 ei lawnsio yn y rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau y do.  Bellach yn ei chweched blwyddyn, mae’r ACF yn cyfrifiad o fyfyrwyr ledled y DU sydd ar eu blwyddyn olaf o gwrs sy’n arwain at gredydau neu gymwysterau israddedig. Dyma’ch cyfle chi i ddatgan eich barn ynglŷn â’r hyn ‘roeddech chi’n ei hoffi am y cyfnod y treulioch yn eich sefydliad, yn ogystal â’r pethau hynny y teimlwch y gellid gwella arrnynt 

Caiff adborth gan fyfyrwyr ei ddefnyddio i gasglu data cymharol blwyddyn ar ôl blwyddyn sydd: 

  1. yn cael ei gyhoeddi ar Unistats.com lle mae darpar fyfyrwyr a’r rheiny sy’n rhoi cyngor iddynt yn gallu defnyddio’r canlyniadau i helpu i wneud dewisiadau hysbys ynghylch beth a lle i astudio
  2. yn ddefnyddiol i’ch prifysgol, eich undeb myfyrwyr neu’ch coleg i hwyluso arfer gorau a gwella profiad dysgu’r myfyrwyr

Rydych chi a’ch atebion yn aros yn ddienw, a defnyddir eich manylion cyswllt at ddiben yr arolwg yn unig.

Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol

Eisiau gwybod mwy? Edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin a’r Datganiad Preifatrwydd. Os na chaiff eich cwestiwn ei ateb yma, mae pob croeso i chi anfon e-bost atom ar thestudentsurvey@ipsos.com.

Gweinyddir yr e-bost gan Ipsos MORI, asiantaeth ymchwil i’r farchnad annibynnol.

Comisiynir yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yr Adran ar gyfer Cyflogaeth a Dysgu (DEL Gogledd Iwerddon) a’r cyriff cyllido eraill. Ceir cefnogaeth lawn gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM).