| AROLWG
CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2013
Annwyl
Fyfyrwyr,
Ym mis Ionawr bydd yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
(ACF) 2013 yn cael ei lansio yn y rhan fwyaf o
Sefydliadau Addysg Uwch a'r rhan fwyaf o Golegau
Addysg Bellach sy'n darparu cyrsiau Addysg Uwch ym
mhob rhan o'r DU. Yr arolwg yw'ch cyfle i roi eich
barn ar yr hyn roeddech chi'n ei hoffi am eich amser
yn eich sefydliad/cwrs yn ogystal â phethau roeddech
chi'n teimlo y gallant fod yn well.
Defnyddir adborth myfyrwyr i grynhoi data cymharol
flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r canlyniadau yn cael
eu rhoi ar gael yn gyhoeddus i ddarpar fyfyrwyr, eu
teuluoedd a'u cynghorwyr i'w helpu i
wneud penderfyniadau gwybodus am ble a beth i'w
astudio. Mae canlyniadau'r arolwg hefyd ar gael drwy
'Setiau Gwybodaeth Allweddol' (KIS), a gyhoeddir ar
wefannau prifysgolion a cholegau a gwefan Unistats.
Gweinyddir yr arolwg gan Ipsos
MORI, asiantaeth ymchwil i'r farchnad
annibynnol. Cewch fod yn sicr y byddwch chi a'ch
atebion yn aros yn ddienw bob amser.
Darllenwch
ragor am yr arolwg
|
 |
|
|
|
|
PWY SY'N ELWA AR YR ACF? |
 |
Mae'r ACF yn gyfrifiad blynyddol
proffil uchel o bron hanner miliwn o
fyfyrwyr ledled y DU. Mae'n arolwg
sefydlog ac yn cynhyrchu gwybodaeth
sy'n dylanwadu ar Addysg Uwch, gan roi
llais cryf ar y cyd i fyfyrwyr i helpu
i lunio dyfodol eu cwrs a'u prifysgol
neu eu coleg.
Darllenwch
ragor >> |
|
|
|
|
|