Home | Ynglyn A'r Acf Enter the survey | Mewn I'r Arolwg Institutions list | Sefydliadau Eligibility | Cymhwyster faqs | Cwestiynau Cyffredin Contact | Cysyllywch â Ni
English
Welsh

Datganiad Preifatrwydd

Pwy sy’n cynnal yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a pham?
Caiff yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) ei gynnal gan Ipsos MORI, asiantaeth ymchwil annibynnol. Mae Ipsos MORI wedi eu cofrestru dan delerau’r Ddeddf Gwarchod Data ac mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau cyfrinachedd parthed â’ch gwybodaeth bersonol.

Caiff yr ACF ei gynnal gan Ipsos MORI, ond caiff ei gomisiynu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (CCAULl). Mae CCAULl yn gorff nad yw’n adrannol o’r llywodraeth, sy’n gweithredu rhai dyletswyddau statudol dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992). Mae’r ACF yn ffurfio rhan o ofynion cyfreithiol CCAULl dan y ddeddf hon i sicrhau ansawdd addysg uwch yn y prifysgolion a’r colegau mae’n eu cyllido.

Mae CCAULl hefyd wedi comisiynu’r arolwg ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yr Adran er Cyflogaeth a Dysgu, Gogledd Iwerddon (ACD), yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion a’r Adran Iechyd. Bydd y cyrff hyn hefyd yn defnyddio canlyniad yr arolwg ar gyfer gweithredu eu swyddogaethau statudol a gall CCAULl rannu gwybodaeth am fyfyrwyr, neu ran ohono, gyda hwy.

Mae gan GCAULl, CCAUC a’r ACD rôl statudol mewn sicrhau fod ansawdd addysgu mewn addysg uwch yn cael ei asesu, a chred CCAULl a’i bartneriaid y dylai barn myfyrwyr ffurfio rhan bwysig o’r asesiad. Yn ogystal, mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) yn bartner yn yr arolwg.

Beth yw diben yr ACF?
Nod yr ACF yw cynorthwyo cenedlaethau o fyfyrwyr addysg uwch y dyfodol gyda’u dewisiadau allweddol ynglŷn â beth a ble i astudio, drwy eu galluogi i weld adborth dienw ar bynciau a sefydliadau. Mae’r arolwg yn rhoddi sylw i fyfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch yn Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon a rhai sefydliadau yn yr Alban, yn ogystal â myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau addysg uwch mewn colegau addysg bellach. Mae’r cyrff addysg uwch, undebau myfyrwyr a’r llywodraeth wedi cytuno y dylai fod yno arolygon cenedlaethol rheolaidd o fyfyrwyr er mwyn cael eu barn ar ansawdd yr addysgu, asesu a’r gefnogaeth maent wedi eu derbyn.

Manylion cyswllt myfyrwyr
Gall CCAULl, o bryd i’w gilydd, gydweithredu â chyrff neu asiantau anstatudol eraill i weithredu ar eu rhan. Mae CCAULl wedi penodi Ipsos MORI i gynnal yr arolwg hwn. Mae CCAULl wedi gofyn i sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach i anfon manylion cysylltu myfyrwyr ymlaen i Ipsos MORI er mwyn eu galluogi i gynnal yr arolwg hwn. Bydd CCAULl, sef yr awdurdod statudol, yn dal i reoli unrhyw wybodaeth bersonol a drosglwyddir dan gytundeb ag Ipsos MORI. At ddibenion yr ACF, mae Ipsos MORI yn gweithredu fel asiant arolwg ar ran CCAULl. Mae gan GCAULl gytundeb gwarchod data mewn lle gydag Ipsos MORI, sy’n darparu’r amddiffyniad angenrheidiol dan y gyfraith i warchod gwybodaeth myfyrwyr. Er enghraifft, cânt eu gwahardd dan amodau’r cytundeb gyda ChCAULl rhag defnyddio data’r ACF sydd yn eu meddiant at unrhyw ddibenion eraill.

Caiff manylion cyswllt myfyrwyr a chanlyniadau’r arolwg a ddarperir ar ffurf copi caled yn uniongyrchol i GCAULl neu unrhyw asiant, eu cadw am gyfnod heb fod yn hwy na deuddeg mis at ddibenion archwiliad, ac yna cânt eu dinistrio ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Caiff eich manylion personol ond eu defnyddio at ddibenion yr ACF. Pan gaiff yr arolwg ei gwblhau, caiff pob manylion cysylltu myfyrwyr eu dinistrio, a bydd Ipsos MORI yn dileu pob data arall sy’n perthyn i fyfyrwyr o’u systemau cyfrifiadurol a’u trosglwyddo i GCAULl. Bydd CCAULl yn cadw’r data yma i’r dibenion a nodwyd uchod.

Optio allan o’r arolwg
Gall myfyriwr optio allan o’r arolwg ar unrhyw adeg, ond mae Ipsos MORI yn gofyn iddynt ddarparu cadarnhad o bwy ydynt (drwy gadarnhau eu dyddiad geni) er mwyn sicrhau fod y manylion cywir yn cael eu dileu o’r gronfa-ddata. Mae’n bwysig fod myfyrwyr yn darparu eu dyddiad geni i gadarnhau eu hunaniaeth fel y gall yr ACF ddarparu gwybodaeth gadarn ar gyfer darpar fyfyrwyr a’r rheiny sy’n eu cynghori, i’w galluogi i wneud dewisiadau doeth. Os yw myfyrwyr yn optio allan ar unrhyw adeg, caiff pob gwybodaeth bersonol (manylion cysylltu, dyddiad geni ayyb.) eu dileu’n ddiogel a pharhaol, ac ni fydd Ipsos MORI yn cysylltu â hwy eto.

Canlyniadau’r arolwg
Bydd CCAULl a’r cyrff uchod yn defnyddio canlyniadau’r arolwg at y dibenion canlynol:

  • Cyhoeddi canlyniadau cyfunol a dienw o’r arolwg yn y ffyrdd canlynol:
    • Yn cael eu cyhoeddi ’yn eu cyd-destun’ ar wefannau prifysgolion a cholegau drwy ’declyn’ Set Gwybodaeth Allweddol. Graffigyn bach yw hwn sydd â thri darn o wybodaeth o’r Set Gwybodaeth Allweddol, sy’n benodol am y cwrs y mae’r defnyddiwr yn edrych arno
    • Yn cael eu cyhoeddi ar wefan swyddogol newydd sy’n galluogi defnyddwyr i chwilio am ddata Set Gwybodaeth Allweddol a data Unistats a’u cymharu (bydd gwefan Unistats yn cau o fis Medi 2012 ymlaen, pan fydd y wefan swyddogol newydd hon yn cael ei lansio)
    • Ar offeryn chwilio cwrs UCAS a ddatblygwyd (Chwilotwr Cwrs), a fydd yn cynnwys y data Set Gwybodaeth Allweddol er mwyn i ddefnyddwyr weld y data a’r cyrsiau y mae ganddynt ddiddordeb mewn gwneud cais amdanynt ar yr un pryd.
  • Dadansoddiad. Gall hyn olygu rhyddhau data, gan gynnwys unrhyw sylwadau agored y byddwch yn eu gwneud, i ddefnyddwyr a gymeradwyir gan GCAULl (ar ran y cynghorau cyllido eraill), megis ymchwilwyr academaidd a mudiadau o fewn i’r sector at ddibenion cynnal dadansoddiad neu ymchwil gyda’r nod o wella ansawdd o fewn i AU. Bydd CCAULl yn cadw rheolaeth ar y data dan gytundeb â defnyddwyr o’r fath, neu os yw’r defnyddiwr hwnnw’n is-gontractio, byddwn yn sicrhau fod ganddynt yr un rheolau gweithredu. Bydd pob data a gynhwysir mewn adroddiadau yn ddienw ac wedi ei gyfuno.
  • Darparu adborth cryno i sefydliadau ac undebau myfyrwyr unigol. Caiff yr wybodaeth hon ei darparu i sefydliadau ac undebau myfyrwyr i’w helpu i nodi sut y gallant wneud gwelliannau. Caiff yr adborth yma ei gyfuno a’i gyflwyno’n ddienw, gan sicrhau na ellir adnabod unrhyw fyfyriwr unigol. Gall y canlyniadau hyn gynnwys unrhyw sylwadau a wneir gan fyfyrwyr ar ddiwedd yr holiadur. Ni briodolir unrhyw sylwadau i unigolion, a buasem yn cynghori myfyrwyr i beidio gwneud sylwadau a fyddai’n ei gwneud yn bosibl i’w hadnabod yn unigol, peidio ag enwi unigolion na gwneud sylwadau a allai adnabod unigolyn

Ni fydd CCAULl nac unrhyw rai o’r cyrff uchod yn defnyddio gwybodaeth am fyfyrwyr mewn ffordd a fyddai’n effeithio ar fyfyrwyr unigol. Bydd CCAULl, sef yr awdurdod statudol, yn cadw rheolaeth ar unrhyw ddata personol a drosglwyddir dan gytundeb ag Ipsos MORI.

Cwestiynau Ychwanegol a Chwestiynau sy’n benodol i Sefydliad
Yn 2012 bydd rhai sefydliadau yn gofyn cwestiynau ychwanegol i’w myfyrwyr sy’n benodol i’w sefydliad. Gwneir hyn drwy’r dull ar-lein yn unig. Bydd hyn yn darparu adborth cyfrinachol ychwanegol i sefydliadau. Bydd CCAULl a’r cyrff uchod yn defnyddio’r wybodaeth at y dibenion canlynol:

  • Darparu adborth cryno i sefydliadau unigol ac undebau myfyrwyr. Bydd y data hwn yn cael ei ddarparu i sefydliadau ac undebau myfyrwyr i’w helpu i nodi sut y gallant wneud gwelliannau.
  • I’w dadansoddi’n ystadegol. Gall hyn olygu rhyddhau data i ddefnyddwyr cymeradwy eraill, a allai gynnwys ymchwilwyr academaidd. Bydd CCAULl yn cadw rheolaeth ar y data dan gytundeb â defnyddwyr o’r fath neu os yw’r defnyddiwr hwnnw’n is-gontractio, byddwn yn sicrhau bod ganddynt yr un rheolau gweithredu. Bydd adroddiadau ond yn cynnwys data dienw wedi’i gydgrynhoi.
  • Ni fydd y data hwn yn cael ei gyhoeddi yn gyhoeddus.
  • Gall sefydliadau ddefnyddio canlyniadau’r cwestiynau dewisol yn gyhoeddus os byddant yn dymuno (bydd y rhain yn cynnwys y cwestiwn sy’n benodol i’r sefydliad a’r banciau cwestiwn dewisol) mewn deunyddiau marchnata. Fodd bynnag, rhaid gweithredu’r egwyddorion canlynol:
    1. os bydd y canlyniadau’n cael eu defnyddio yn y modd hwn, rhaid glynu at y trothwyon cyhoeddi 50% a 23 o ymatebwyr
    2. ni ddylid defnyddio sylwadau unigolion mewn deunyddiau cyhoeddus er mwyn cadw enwau’r myfyrwyr yn ddienw
    3. ni ddylai sefydliadau gyhoeddi’r canlyniadau hyn fel canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.

Gwneud Sylwadau / Cwynion am yr ACF
Mae Ipsos MORI, CCAULl a’r cyrff uchod wedi ymrwymo i wneud gwelliannau parhaus i’r ACF. Os oes gennych chi sylwadau a/neu gwynion, yna dylech gysylltu ag Ipsos MORI ar thestudentsurvey@ipsos.com

Eich Hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998
Dan Ddeddf Diogelu Data 1998 mae gennych yr hawl i gopi o’r data sy’n cael ei gadw amdanoch gan GCAULl, am daliad bychan. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â’r defnydd o ddata at y dibenion hyn, neu os hoffech gael copi o’r wybodaeth a ddarparwyd yn uniongyrchol i ni, yna mae croeso i chi gysylltu â ChCAULl drwy anfon e-bost i nss@hefce.ac.uk neu gallwch ysgrifennu at y Swyddog Diogelu Data / Data Protection Officer, HEFCE, Northavon House, Coldharbour Lane, Bristol BS16 1QD.

Ipsos MORI | HEFCE | NUS