Skip navigation.

Croeso i'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol

Mae'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (AMC) yn targedu israddedigion blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn bennaf, a Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) cyfrannog yn yr Alban. Hefyd, o 2008 bydd myfyrwyr addysg uwch blwyddyn olaf yn bennaf sy'n astudio mewn Colegau Addysg Bellach (CABau) yn Lloegr yn gymwys i gyfranogi.

Mae'r arolwg yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fynegi'u barn ar eu profiad fel myfyrwyr addysg uwch ar lefel genedlaethol. Mae'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi a'u defnyddio i lunio cymhariaeth data o flwyddyn i flwyddyn sydd;

Mae'r AMC ar ei bedwaredd flwyddyn bellach a bydd canlyniadau 2008 yn cael eu cyhoeddi ar wefan Unistats (www.unistats.com), sy'n ceisio cynorthwyo darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch beth i'w astudio ac ymhle. Mae'r wefan, a ddyluniwyd ar y cyd ag UCAS, yn hawdd i'w llywio, ac mae safle 2007 yn galluogi defnyddwyr i wneud y canlynol:

Mae'r cyrff canlynol yn cefnogi'r AMC yn llawn:

Comisiynwyd yr arolwg gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a'r Adran Cyflogaeth a Dysgu, Gogledd Iwerddon (DELNI). Mae'n cael ei weinyddu gan Ipsos MORI, asiantaeth annibynnol ymchwil y farchnad.

Sut ydw i'n cymryd rhan yn AMC 2008?

Bydd myfyrwyr cymwys yn cael e-bost gan Ipsos MORI yn ystod mis Ionawr neu fis Chwefror 2008 yn eu gwahodd i gwblhau'r arolwg ar-lein. Bydd eu Sefydliad wedi darparu manylion cyswllt y myfyrwyr i Ipsos MORI. Mae'r cyfranogwyr a'u hatebion yn aros yn ddienw gydol proses gyfan yr arolwg.

Fodd bynnag, os ydych yn eich blwyddyn olaf ar gwrs israddedigion (neu ar gyfer rhan-amser neu raglenni hyblyg yn eich pedwaredd flwyddyn o astudiaeth), medrwch gwblhau'r arolwg nawr trwy glicio ar y ddolen gyswllt Cychwyn yr Arolwg. Gofynnir i chi am ddata personol er mwyn dilysu'r ffaith bod gennych hawl i gymryd rhan. Mae'r arolwg yn syml ac ni ddylai gymryd mwy na phum munud i'w gwblhau.

Fe gynlluniwyd y wefan hon i fod yn gyson â thechnolegau cynorthwyol ac fe roddir atebion i Cwestiynau a Ofynnir yn Aml ar yr arolwg. Os oes gennych gwestiwn nad yw'n cael ei ateb yn yr adran hon Cysylltwch â Ni, Tîm NSS yn Ipsos MORI os gwelwch yn dda.