Skip navigation.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

1. Beth yw'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol?

Mae'r AMC yn gofyn i fyfyrwyr sy'n israddedigion blwyddyn olaf yn bennaf i roi adborth ar eu cyrsiau mewn fformat a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae'r cwestiynau a ofynnir yn ymwneud â'r is-benawdau canlynol:

  1. Yr addysgu ar fy nghwrs,
  2. Asesiad ac adborth,
  3. Cymorth academaidd,
  4. Trefnu a rheoli,
  5. Adnoddau dysgu,
  6. Datblygiad personol,
  7. Bodlonrwydd cyffredinol.

I fyfyrwyr sydd ar gwrs sy'n cael ei ariannu gan y GIG, gofynnir cwestiynau sy'n ymwneud â'r is-bennawd canlynol hefyd:

Lleoliadau ymarfer GIG.

Yn ogystal â hynny, cewch y cyfle i ysgrifennu sylw cadarnhaol a/neu negyddol am eich profiad fel myfyriwr.

Mae rhai sefydliadau wedi dewis gofyn cwestiynau ychwanegol i'w myfyrwyr. Os ydych yn fyfyriwr yn un o'r sefydliadau hynny, gofynnir i chi ateb y cwestiynau hyn ar ôl cwblhau'r prif holiadur. Gwneir hyn drwy'r fethodoleg ar-lein yn unig. Nid yw hyn yn orfodol, felly os nad ydych yn dymuno cymryd rhan gallwch wrthod y gwahoddiad i ateb y cwestiynau ychwanegol hyn.

Dylai'r cwestiynau ychwanegol hyn gymryd pum munud i'w cwblhau fan bellaf. Dim ond i sefydliadau myfyrwyr ac undebau myfyrwyr cyfrannog y darperir yr atebion i'r cwestiynau hyn, gan fod y cwestiynau wedi'u cynllunio i wella'r profiad i fyfyrwyr y dyfodol. Felly, ni fydd y canlyniadau penodol hyn ar gael yn gyhoeddus. Defnyddir y wybodaeth hon wedyn i roi data gwerthfawr i sefydliadau ar feysydd i'w gwella, ac i gynorthwyo darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch pa gwrs i'w ddilyn ac ym mha sefydliad.

Menter genedlaethol yw'r AMC ac mae wedi'i chynnal yn flynyddol er 2005. Mae'r arolwg yn rhedeg ar draws pob sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, a sefydliadau cyfrannog yn yr Alban. Hefyd, o 2008 os ydych yn fyfyrwyr mewn coleg addysg bellach yn astudio ar gwrs addysg uwch (fel gradd sylfaen) yn Lloegr, gallwch chi gyfranogi hefyd.

Bydd yr adborth a ddarperir gan fyfyrwyr cymwys yn cael ei gyhoeddi ar wefan Unistats www.unistats.com.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

2. Pwy sydd yn comisiynu'r arolwg?

Comisiynwyd yr arolwg gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), a gefnogir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC/HEFCW), yr Adran ar gyfer Cyflogaeth a Dysgu, Gogledd Iwerddon (DEL) a'r Asiant Hyfforddiant a Datblygu ar gyfer Ysgolion (TDA). Mae gan y cyrff hyn rôl statudol i'w chwarae o ran sicrhau bod ansawdd dysgu mewn addysg uwch yn cael ei asesu, ac yn credu y dylai barn myfyrwyr ffurfio rhan bwysig o'r asesiad.

Mae Ipsos MORI, asiantaeth ymchwil annibynnol, wedi eu comisiynu i ymgymryd â'r arolwg. Cefnogir yr arolwg gan yr NUS, NUS-Cymru ac NUS-USI.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

3. Pryd a sut caiff ei gynnal?

Mae'r arolwg ar-lein yn fyw o 7 Ionawr 2008 ymlaen. Bydd myfyrwyr cymwys yn derbyn e-bost erbyn diwedd Chwefror 2008 yn eu gwahodd i gwblhau'r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad ydych eto wedi derbyn e-bost ac os ydych yn cydymffurfio gyda'r disgrifiad dan Pwy fydd yn derbyn cais i gymryd rhan? yna medrwch gwblhau'r arolwg heddiw — gweler Sut medraf gymryd rhan?

Mae'n bosibl bydd IPSOS MORI yn cysylltu, trwy'r post neu dros y ffôn, â'r rhai nad ydynt yn ymateb i'r arolwg ar-lein, er mwyn medru casglu barn cymaint o fyfyrwyr ag y bo modd; mwy o adborth rydym yn derbyn, mwy o wybodaeth fydd ar gael i fyfyrwyr potential wrth wneud penderfyniadau am be ac ymhle

Caiff y canlyniadau arolwg 2008 eu cyhoeddi ar y wefan Unistats (www.unistats.com) yn ystod yr haf 2008.Datblygwyd y safle fel siop un stop o wybodaeth am ansawdd a safonau addysg uwch. Bydd ymgeiswyr sy'n dymuno cychwyn ar gwrs y flwyddyn academaidd ganlynol yn gallu defnyddio'r safle i helpu i lywio'u dewisiadau.

Ar ddiwedd yr arolwg, bydd canlyniadau dienw yn cael eu bwydo'n ôl i sefydliadau i'w helpu i weld sut medrent wneud gwelliannau.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

4. Pwy fydd yn derbyn cais i gymryd rhan?

Bydd holl fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau israddedigion (gradd Baglor, gradd sylfaen, tystysgrifau a diplomas addysg uwch) yn cael eu harolygu ym mlwyddyn olaf eu hastudiaethau. Bydd myfyrwyr mewn colegau addysg bellach sydd yn astudio mewn cyrsiau israddedig yn Lloegr yn cael eu gofyn hefyd yn.

Mae nifer o eithriadau i'r disgrifiad hwn, fel y nodir isod:

Mae'r arolwg yn digwydd ar draws Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae rhai SAUs yn yr Alban wedi dewis i gymeryd rhan yn yr arolwg y flwyddyn yma. Y sefydliadau sy'n cymeryd rhan:

Yn ogystal, mae University of Buckingham wedi penderfynu cymeryd rhan.

Cymerodd myfyrwyr a ariennir gan y GIG rhan yn yr arolwg am y tro cyntaf yn 2007, a barhaent i gymeryd rhan yn 2008. Defnyddir yr un holiadur, er gofynnir cwestiynau ychwanegol i'r myfyrwyr hyn am eu profiadau yn ystod eu lleoliad(au). Gofynnir felly i'r myfyrwyr hyn lenwi'r holiadur ar-lein yn unig.

Os nad ydych yn sicr os ydych yn gymwysedig i gymryd rhan, medrwch gwblhau'r arolwg beth bynnag. Bydd Ipsos MORI yn gwirio a dilysu eich ymateb. Bydd Ipsos MORI yn cysylltu gyda holl israddedigion nad ydynt wedi cwblhau'r arolwg erbyn Ebrill 2008 fan bellaf.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

5. Beth sy'n cael ei ofyn?

Mae'r prif holiadur yn cynnwys dau ar hugain o gwestiynau sydd wedi'u rhannu i'r is-benawdau canlynol:

  1. Yr addysgu ar fy nghwrs
  2. Asesu ac adborth
  3. Cymorth academaidd
  4. Trefnu a rheoli
  5. Adnoddau dysgu
  6. Datblygiad personol
  7. Bodlonrwydd cyffredinol.

Hefyd, mae dau flwch wedi'u nodi 'Cadarnhaol' a 'Negyddol' lle gall myfyrwyr nodi sylwadau perthnasol nad yw'r cwestiynau'n ymdrin â hwy.

Gofynnir i fyfyrwyr sydd ar gyrsiau yn cael eu hariannu gan y GIG ynghylch eu lleoliadau ymarfer yn ogystal.

At ei gilydd, mae'r holiadur yn un cyflym a hawdd i'w lenwi.

Mae'n bosibl y gofynnir i fyfyrwyr o rai sefydliadau ateb rhai cwestiynau ychwanegol ar ddiwedd yr arolwg ar-lein. Nid yw hyn yn orfodol a gall myfyrwyr wrthod y gwahoddiad i ateb y cwestiynau ychwanegol hyn. Pum munud fan bellaf y bydd yn ei chymryd i ateb y cwestiynau ychwanegol. Rhoddir yr atebion i'r cwestiynau hyn i sefydliadau'r myfyrwyr ac undebau myfyrwyr yn unig, er mwyn llywio gwella profiad y myfyriwr. Felly ni fydd y canlyniadau yma ar gael yn gyhoeddus.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

6. Pwy sydd â mynediad i fanylion cyswllt myfyrwyr?

Mae sefydliadau sy'n cymeryd rhan wedi cyflwyno manylion cyswllt myfyrwyr blwyddyn olaf cymwys i Ipsos MORI, yr asiantaeth ymchwil sy'n gyfrifol am ymgymryd â'r arolwg.

Mae Ipsos MORI yn aelod o'r Gymdeithas Ymchwil Marchnad a bydd holl fanylion ac ymatebion yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth gwarchod data.

Caiff data personol myfyrwyr ond ei ddefnyddio i ddibenion yr AMC, a bydd manylion cyswllt yn cael eu dinistrio ar ddiwedd yr arolwg.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

7. A yw'r canlyniadau'n gyfrinachol?

Ydynt; bydd canlyniadau ond yn cael eu cyflwyno ar ffurf crynodeb ystadegol yn ôl sefydliad, cwrs neu adran. Bydd y crynodebau ond yn cael eu cyflwyno lle mae digon o ymatebion i warchod anhysbysrwydd unigolion.

Bydd Ipsos MORI a'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch ar gyfer Lloegr (HEFCE) yn cadw'r holl ymatebion unigol yn gyfrinachol. Ni fydd myfyrwyr unigol yn cael eu hadnabod i sefydliadau addysg uwch ar unrhyw adeg.

Am fanylion pellach am sut bydd ymatebion myfyrwyr i'r arolwg yn cael eu trin, gweler y Datganiad Preifatrwydd.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

8. Sut medraf gymryd rhan?

Os ydych:

  1. Yn fyfyriwr israddedig blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban o bosibl (gan ddibynnu ar a yw eich sefydliad yn yr Alban wedi dewis cymryd rhai ai peidio) sy'n astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch (gweler y rhestr isod).
  2. Yn fyfyriwr israddedig blwyddyn olaf mewn Coleg Addysg Bellach yn Lloegr (gweler y rhestr isod).
  3. Yn fyfyriwr rhan-amser (neu'n fyfyriwr ar raglen astudio hyblyg) yn eich pedwaredd flwyddyn yn astudio mewn Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban o bosibl (gan ddibynnu ar a yw eich sefydliad yn yr Alban wedi dewis cymryd rhai ai peidio) (gweler y rhestr isod).
  4. Yn fyfyriwr rhan-amser (neu'n fyfyriwr ar raglen astudio hyblyg) yn eich pedwaredd flwyddyn yn astudio mewn coleg addysg bellach yn Lloegr (gweler y rhestr isod).
  5. I weld disgrifiad llawn, gweler i bwy y gofynnir i gymryd rhan?

… medrwch gwblhau'r arolwg trwy glicio ar y ddolen gyswllt Cychwyn yr Arolwg.

Gofynnir i chi am ddata personol er mwyn sicrhau bod gennych hawl i gymryd rhan. Rhowch yr wybodaeth i gyd a ofynnir amdani, os gwelwch yn dda. Bydd eich atebion yn cael eu hystyried dim ond os bydd eich gwybodaeth bersonol i gyd yn gywir. Os nad yw, mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i ddilysu eich ateb.Pan fyddwch wedi cwblhau'r arolwg ni ddylid cysylltu â chi eto ac ni fyddwch yn cael eich atgoffa ymhellach.

Mae'r arolwg ar-lein wedi'i gysylltu â chronfa ddata fyw o fyfyrwyr cymwys. Caiff ein cronfa ddata ei diweddaru'n rheolaidd. Os byddwch yn cael eich atgoffa o hyd, gall hyn fod oherwydd nad oedd modd i ni weddu'r manylion a roddwyd gennych â'r rheiny a ddarparwyd gan eich sefydliad, neu bu peth gorgyffwrdd rhwng yr adeg pan anfonoch eich ymateb (drwy'r post, er enghraifft) ac adeg ailgysylltu â chi. Byddwn yn ceisio cysylltu â chi drwy'r e-bost, yna os nad ydym wedi cael unrhyw ymateb gennych, drwy'r post ac yna dros y ffôn.

Hoffem eich sicrhau y bydd eich preifatrwydd yn cael ei barchu. Ni fydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu priodoli i fyfyrwyr unigol. Bydd canlyniadau'r arolwg ond yn cael eu hadrodd yn ôl i'r sefydliad, pwnc neu adran.

Os ydych yn darparu sylwadau ar ddiwedd yr holiadur, efallai y byddwn yn pasio'r rhain ymlaen, yn ddienw, i'ch sefydliad er mwyn eu helpu i weld sut medrent wneud gwelliannau. I sicrhau eich bod yn aros yn ddienw, dylech osgoi gwneud sylwadau a fyddai'n caniatáu eich adnabod chi fel unigolyn.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

9. A gaf dynnu'n ôl o'r arolwg?

Cewch, os nad ydych eisiau cymryd rhan am ryw reswm, medrwch dynnu'n ôl.

Ar unrhyw adeg pan fo Ipsos MORI yn anfon e-bost atoch neu'n cysylltu gyda chi'n uniongyrchol, medrwch ateb trwy ddweud nad ydych eisiau cymryd rhan. Ni fyddwn yn cysylltu gyda chi eto. Mae'n rhaid ichi dynnu'n ôl yn benodol os nad ydych am gael eich arolygu; nid oes peidio ag ateb yr e-bost, holiadur trwy'r post neu gyfweliad dros y ffôn yn cyfrif fel tynnu'n ôl. Mae'n rhaid inni fod yn sicr o bwy yw'r myfyriwr sy'n tynnu'n ôl, felly rydym yn gofyn am yr un wybodaeth adnabod â'r rhai sy'n ateb i'r arolwg.

Os ydych am dynnu'n ôl o'r arolwg, cliciwch ar Cychwyn yr Arolwg a gofynnir i chi os ydych eisiau cymryd rhan yn yr arolwg. Os nad ydych eisiau, cliciwch 'na'. Nodwch os gwelwch yn dda y gofynnir i chi am beth gwybodaeth i wirio pwy ydych.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

10. Am faint bydd Ipsos MORI yn cadw'r data hwn? Pryd caiff y data ei ddinistrio?

Caiff manylion cyswllt eu tynnu o'r holl systemau cyfrifiadurol gan Ipsos MORI unwaith nad oes eu hangen bellach i gysylltu â myfyrwyr ynglyn â'r AMC, ac erbyn mis Mai 2008 fan bellaf. Bydd Ipsos MORI yn pasio ymlaen yr holl ddata arall (gan gynnwys atebion myfyrwyr) i HEFCE cyn Mis Gorffennaf 2008 fan bellaf, a bydd yn cadw dim ond data sy'n anhysbys nes bydd y broses adrodd wedi'i gwblhau. Ni chaiff data ei gadw wedi'r cyfnod hwn.

Bydd HEFCE yn defnyddio'r data hwn at ddiben dadansoddi, a bydd yn defnyddio ymchwilwyr dan gytundeb a fydd â mynediad i'r data am gyfnod penodol er mwyn cynnal y dadansoddi a rhoi adborth cyfanredol. Bydd yr ymchwilwyr hyn yn dileu'r data unwaith bydd y prosiect wedi gorffen. Bydd HEFCE yn cadw'r data at ddibenion unrhyw ymchwil pellach neu gyfredol, fel y maent gyda data personol arall (e.e. cofnodion Asiant Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a data DHLE).

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

11. Sut caiff y data ei gadw?

Ni fydd HEFCE yn derbyn unrhyw manylion cyswllt myfyrwyr. Byddant yn cadw data arall (atebion gan fyfyrwyr sy'n gysylltiedig i gofnodion myfyrwyr Asiant Ystadegau Addysg Uwch HESA) mewn modd electronig ar system ddiogel, yn yr un modd â chaiff data personol arall (e.e. cofnodion HESA a data DHLE) ei gadw.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

12. O ble mae Ipsos MORI'n cael fy manylion cyswllt?

Mae manylion myfyrwyr wedi cael eu pasio ymlaen i Ipsos MORI gan eich sefydliad dan awdurdod HEFCE. Mae Ipsos MORI wedi cael eu comisiynu i gynnal yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, a bydd yn defnyddio manylion myfyrwyr at ddibenion yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn unig. Caiff holl fanylion myfyrwyr eu dileu o systemau cyfrifiadurol Ipsos MORI unwaith bydd y prosiect wedi gorffen.

Darllenwch y Datganiad Preifatrwydd llawn ynglyn â'r AMC am fanylion pellach.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

13. Rydw i eisoes wedi cwblhau'r arolwg, a ches i lythyr atgoffa yn ddiweddar. Oes rhaid imi ei gwblhau eto?

  1. Nid ydym wedi derbyn eich holiadur wedi'i gwblhau; cwblhewch yr holiadur eto, os gwelwch yn dda, os byddwch yn meddwl y dylem wedi'i dderbyn erbyn hyn.
  2. Nid oeddwn yn gallu cydweddu eich manylion i gronfa ddata'r AMC er mwyn dilysu eich ateb. Mae'n rhaid inni sicrhau bod yr ateb rydym wedi'i dderbyn wedi dod gennych chi er mwyn ei ddilysu. Cwblhewch yr arolwg eto, os gwelwch yn dda, a rhowch wybodaeth adnabod gywir er mwyn ein galluogi i ddilysu eich ateb. Ond os oeddech yn cwblhau yr arolwg ar-lein, bydd angen i ail-gysylltu yn isel iawn gan fod yr arolwg yn gyswllt i basdata byw o fyfyrwyr cymwys.
  3. Roedd gorgyffwrdd rhwng y pryd gwnaethoch chi anfon eich ateb (e.e. trwy'r post) a ninnau'n diweddaru ein cronfa ddata pan gwnaethon ni anfon llythyr atgoffa atoch. Rydym yn diweddaru ein cronfa ddata bob dydd yn ystod cyfnod yr arolwg er mwyn cyfyngu ar y math yma o ddigwyddiad, ond mae rhai atebwyr yn cael eu colli. Cwblhewch yr arolwg eto, os gwelwch yn dda, os byddwch yn meddwl y dylem wedi'i dderbyn erbyn hyn.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

14. Nid wyf yn fyfyriwr blwyddyn olaf ond derbyniais wahoddiad i gymryd rhan yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol. Oes rhaid imi gymryd rhan yn yr arolwg?

Mae rhai eithriadau lle caiff myfyrwyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf yn cael eu cynnwys yn sampl yr AMC. Felly os yw Ipsos MORI wedi cysylltu â chi i gymryd rhan yn yr arolwg, rydych yn gymwys a hoffwn dderbyn eich ymateb.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

15. Rwyf wedi nodi manylion fy nyddiad geni ond nid yw'n caniatáu i mi logio i mewn i'r arolwg, pam felly?

Gwnewch yn siwr eich bod wedi nodi manylion eich dyddiad geni yn y fformat canlynol, DD/MM/BBBB (e.e. 18/04/1987). Hefyd, cynhwyswch yr arwyddion "/" wrth deipio'ch gwybodaeth.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

16. Cwblheais yr arolwg yn 2007 — pam y gofynnwyd imi ei gwblhau eto?

Os ydych wedi cael eich gofyn i gwblhau'r arolwg eleni, rydych yn gymwys a hoffem ichi ei gwblhau. Mae'n bosibl nad oeddech yn gymwys y llynedd a chawsoch eich cynnwys trwy gamgymeriad. Ni fyddwn wedi ystyried eich ymatebion y llynedd.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

17. Sut cafodd canlyniadau'r o'r dwy flynedd gynt eu ddefnyddio?

Mae canlyniadau blynyddoedd blaenorol ar gael i sefydliadau ac undebau myfyrwyr sy'n eu defnyddio i nodi meysydd i wella'r profiad i fyfyrwyr y dyfodol. Hefyd, mae canlyniadau AMC 2007 ar gael ar wefan Unistats (www.unistats.com). Mae'r canlyniadau'n cynorthwyo darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch beth i'w astudio ac ymhle.

18. Pam mae cwestiynau gwahanol i bobl eraill wedi cael eu gofyn i mi?

Mae rhai SAUau wedi dewis gofyn cwestiynau ychwanegol i'w myfyrwyr. Rhoddwyd dewis eleni i sefydliadau o set o ddeuddeg o fodiwlau cwestiynau ychwanegol ar wahanol feysydd o'r prif arolwg. Caniatawyd i SAUau ddewis hyd at bump o'r modiwlau ychwanegol hyn. Mae rhai sefydliadau wedi penderfynu peidio â gofyn unrhyw fodiwlau ychwanegol. Rhoddir dewis i fyfyrwyr os ydynt am barhau i gwblhau'r modiwlau ychwanegol hyn ar ddiwedd y prif AMC. Os dewiswch beidio â chwblhau'r modiwlau ychwanegol, na ddylai gymryd mwy na pum munud, yna bydd eich atebion i'r prif AMC yn cael eu cymryd i ystyriaeth o hyd. Ni ofynnir y modiwlau cwestiynau ychwanegol ond os ydych yn llenwi'r arolwg ar-lein.

Yn ogystal â'r cwestiynau hyn, mae rhai sefydliadau wedi dewis ychwanegu cwestiwn o'u dewis sy'n benodol i sefydliad, gan fod ganddynt ddiddordeb penodol i gael adborth am y maes hwn. Rhoddir y dewis i fyfyrwyr i fynd ymlaen i ateb y cwestiwn hwn ar ddiwedd y prif AMC. Os dewiswch beidio ag ateb y cwestiwn hwn, yna bydd eich ymatebion i'r prif AMC yn cael eu hystyried o hyd. Dim ond os ydych yn cwblhau'r arolwg ar-lein y gofynnir y cwestiwn sy'n benodol i sefydliad i chi.

Mae myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau a ariennir gan y GIG yn ymgymryd â lleoliadau ymarfer, felly mae eu profiad o Addysg Uwch ychydig yn wahanol. Yn ogystal â'r 22 cwestiwn safonol, felly, gofynnir cwestiynau ychwanegol i fyfyrwyr a ariennir gan y GIG ar destun lleoliadau ymarfer.

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

19. Sefydliadau sy'n cymryd rhan yn yr AMC 2008

Sefydliadau Addysg Uwch

Colegau Addysg Bellach

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.