Skip navigation.

Cysylltiadau

Pwy sy'n gyfrifol am yr Arolwg?

Mae'r cyrff canlynol yn gyfrifol am yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (AMC). Mae'r arolwg yn ffurfio rhan o'u dyletswyddau statudol i sicrhau bod ansawdd dysgu mewn addysg uwch yn cael ei asesu. I ganfod mwy am y cyrff hyn, cliciwch ar un o'r cysylltiadau isod.

Sgiliau ar gyfer Iechyd

Cefnogir yr arolwg gan y cyrff myfyrwyr canlynol:

Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr — Alban

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

Pwy sy'n gweinyddu'r Arolwg?

Mae'r Arolwg yn cael ei weinyddu gan Ipsos MORI. Mae ganddynt brofiad sylweddol mewn arolygon mawr o'r natur hon, ar ôl ennill a chadw contractau ar gyfer yr Arolwg Darllenwyr Cenedlaethol a'r Arolwg Gwrandawyr Radio Cenedlaethol.

Mae'r holl waith a wneir gan Ipsos MORI yn cael ei wneud yn unol â Deddf Gwarchod Data a chanllawiau a gytunwyd gyda'r Gymdeithas Ymchwil Marchnad. I ganfod mwy am Ipsos MORI cliciwch ar y cyswllt isod.

Ipsos MORI

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

Ble caiff y canlyniadau eu cyhoeddi?

Cyhoeddir canlyniadau'r arolwg ar wefan Unistats (www.unistats.com) yn haf 2008. Bydd hefyd yn cynnwys canlyniadau blaenorol yr AMC. Bydd y wefan newydd yn haws ei defnyddio na'r wefan bresennol a bydd yn cael ei chysylltu ag UCAS. Bydd yr hen safle ar gael o hyd nes lansio'r wefan newydd er mwyn gweld canlyniadau'r arolygon blaenorol. Fodd bynnag, hyd hynny bydd yr hen safle ar gael i weld canlyniadau'r arolygon blaenorol. Datblygwyd y safle fel siop un stop o wybodaeth am ansawdd a safonau addysg uwch. Bydd ymgeiswyr sy'n dymuno cychwyn ar gwrs y flwyddyn ganlynol yn cael eu hannog i ddefnyddio'r safle i'w helpu i lywio'u dewisiadau..

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

Sut medraf ddysgu mwy am Ymchwil Marchnad?

I ganfod mwy am ymchwil marchnad, medrwch gysylltu gyda'r Gymdeithas Ymchwil Marchnad (MRS). I ddysgu mwy am MRS, cliciwch ar y cyswllt isod.

MRS

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.

Cysylltiadau eraill.

Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Ewch yn ôl i ben y dudalen hon.