Datganiad Preifatrwydd
Mae'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (AMC) yn cael ei gynnal gan Ipsos MORI, asiantaeth ymchwil annibynnol. Mae Ipsos MORI wedi ei gofrestru dan delerau'r Ddeddf Gwarchod Data ac mae ganddo ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau cyfrinachedd data.
Amcan yr AMC yw cynorthwyo cenedlaethau myfyrwyr addysg uwch y dyfodol gyda'u dewisiadau allweddol o ran beth ac ymhle i astudio trwy ganiatáu iddynt weld adborth dienw ar gyrsiau a sefydliadau. Mae'r cyrff addysg uwch, undebau myfyrwyr a'r llywodraeth wedi cytuno y dylid cael arolwg cenedlaethol rheolaidd o fyfyrwyr i ofyn am eu barn ar ansawdd y dysgu, yr asesu a'r gefnogaeth a gafwyd.
Comisiynir yr AMC gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE). Mae HEFCE yn gorff llywodraethol an-adrannol, sy'n ymgymryd â swyddogaethau statudol penodol dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (Deddf FHE 1992).
Mae HEFCE hefyd wedi comisiynu'r arolwg ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), a'r Adran Gyflogaeth a Dysgu, Gogledd Iwerddon (DEL) a'r Asiant Hyfforddiant a Datblygu ar gyfer Ysgolion (TDA). Bydd y cyrff hyn hefyd yn defnyddio canlyniadau'r arolwg wrth ymgymryd â'u swyddogaethau statudol a gall HEFCE rannu gwybodaeth myfyrwyr, neu rannau o'r wybodaeth, gyda hwy.
Mae gan HEFCE, HEFCW, DEL a TDA rôl statudol i'w chwarae o ran sicrhau bod ansawdd dysgu mewn addysg uwch yn cael ei asesu, ac yn credu y dylai barn myfyrwyr ffurfio rhan bwysig o'r asesiad hwnnw.
Gall HEFCE o bryd i'w gilydd gyflogi cyrff neu asiantaethau anstatudol eraill i ymgymryd â swyddogaethau ar eu rhan. Mae HEFCE wedi penodi Ipsos MORI i ymgymryd â'r arolwg hwn. Mae HEFCE wedi gofyn am fanylion cyswllt myfyrwyr gan sefydliadau addysg uwch er mwyn medru ymgymryd â'r arolwg hwn. Bydd HEFCE, yr awdurdod statudol, yn cadw rheolaeth o unrhyw ddata personol a drosglwyddir dan gontract gydag Ipsos MORI.
Bydd HEFCE a'r cyrff uchod yn defnyddio'r wybodaeth i'r dibenion canlynol:
- Cyhoeddi canlyniadau cyfanredol a di-enw'r arolwg ar wefan Gwybodaeth Ansawdd Dysgu (TQI) (www.tqi.ac.uk). Bydd HEFCE yn darparu crynodeb o'r data, heb enwau, i HERO Ltd i'r pwrpas hwn.
- Ar gyfer dadansoddiad ystadegol. Gall hyn arwain at ryddhau data i ddefnyddwyr cymeradwy eraill, a all gynnwys ymchwilwyr academaidd. Bydd HEFCE yn cadw rheolaeth o'r data dan gontract gyda defnyddwyr o'r fath. Bydd adroddiadau ond yn cyflwyno data cyfanredol a di-enw.
- I ddarparu crynodeb o'r adborth i sefydliadau unigol ac undebau myfyrwyr sydd yn cyfrannu yn yr arolwg. Caiff y data ei ddarparu i sefydliadau i'w helpu i weld sut medrent wneud gwelliannau. Bydd hyn yn cynnwys testun unrhyw sylwadau a ddarperir gan y myfyrwyr ar ddiwedd yr holiadur. Bydd mesurau'n cael eu cymryd i grwpio'r sylwadau hyn er mwyn atal sefydliadau rhag gallu adnabod sylwadau unigolion. Fodd bynnag, hwyrach y bydd hyn yn parhau i fod yn bosibl mewn rhai achosion, a chynghorir myfyrwyr i osgoi gwneud sylwadau a allai eu galluogi i gael eu hadnabod yn unigol.
Ni fydd HEFCE nac unrhyw un o'r cyrff uchod yn defnyddio cofnodion myfyrwyr mewn unrhyw fodd a fyddai'n effeithio ar fyfyrwyr unigol.
Bydd gwybodaeth a gyflwynir ar ffurf copi caled yn uniongyrchol i HEFCE neu unrhyw un o'i asiantau yn cael ei chadw am ddeuddeg mis ar y mwyaf i ddibenion archwilio, ac fe gaiff ei dinistrio ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
Defnyddir data personol myfyrwyr i ddibenion yr AMC yn unig. Pan fydd yr arolwg wedi ei gwblhau, caiff holl fanylion myfyrwyr eu dinistrio a bydd Ipsos MORI yn tynnu holl ddata arall myfyrwyr oddi ar eu systemau cyfrifiadurol a'i drosglwyddo i HEFCE. Bydd HEFCE yn cadw'r data i'r dibenion a nodir uchod.
Dan y Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gan fyfyrwyr hawl i gopi o'r data a ddelir arnynt gan HEFCE, am ffi fechan. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â defnyddio data i'r dibenion hyn neu os hoffech gopi o'r data a gyflwynwyd yn uniongyrchol i ni, cysylltwch â HEFCE yn www.hefce.ac.uk / www.hefcw.ac.uk, neu trwy ysgrifennu at y Swyddog Gwarchod Gwybodaeth, HEFCE, Northavon House, Coldharbour Lane, Bryste BS16 1QD.
