Skip navigation.

Yr Arolwg

Os ydych:

  1. Yn fyfyriwr israddedig blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban o bosibl (gan ddibynnu ar a yw eich sefydliad yn yr Alban wedi dewis cymryd rhai ai peidio) sy'n astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch (gweler y rhestr isod).
  2. Yn fyfyriwr israddedig blwyddyn olaf mewn Coleg Addysg Bellach yn Lloegr (gweler y rhestr isod).
  3. Yn fyfyriwr rhan-amser (neu'n fyfyriwr ar raglen astudio hyblyg) yn eich pedwaredd flwyddyn yn astudio mewn Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban o bosibl (gan ddibynnu ar a yw eich sefydliad yn yr Alban wedi dewis cymryd rhai ai peidio) (gweler y rhestr isod).
  4. Yn fyfyriwr rhan-amser (neu'n fyfyriwr ar raglen astudio hyblyg) yn eich pedwaredd flwyddyn yn astudio mewn coleg addysg bellach yn Lloegr (gweler y rhestr isod).
  5. I weld disgrifiad llawn, gweler i bwy y gofynnir i gymryd rhan? (www.thestudentsurvey.com/faq.html)

Byddwch yn derbyn e-bost ym mis Ionawr neu Chwefror 2008 yn eich gwahodd i gwblhau'r arolwg ar-lein.

Fodd bynnag, nid oes angen i chi aros nes cewch yr e-bost. Medrwch gwblhau'r arolwg nawr trwy glicio ar y linc isod.

Cwblhau'r Arolwg

Gofynnir i chi am beth gwybodaeth i wirio pwy ydych a bod gennych hawl i gymryd rhan. Mae'r arolwg yn syml ac ni ddylai gymryd mwy na phum munud.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r arolwg ni chysylltir gyda chi eto ac ni fyddwch yn derbyn unrhyw lythyrau atgoffa. Mae ein cronfa ddata yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.

*Nid yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr blwyddyn olaf yn yr Alban yn gymwys i gymryd rhan yn yr arolwg ar hyn o bryd. I weld manylion y meini prawf cymhwyster ewch i'r tudalen gwestiynnau a chliciwch ar "Pwy a fydd yn derbyn cais i gymryd rhan?"