Polisi Cwcis

Mae’r wefan hon, www.thestudentsurvey.com, yn defnyddio cwcis sydd yn ein helpu ni i roi profiad da i chi wrth ichi bori drwy ein gwefan, ac yn ein galluogi i wella ein gwefan. Drwy barhau i bori drwy’r wefan, rydych chi’n cytuno â’n defnydd ni o gwcis.

Ffeil fechan yw cwci sy’n cynnwys llythrennau a rhifau. Mae’r ffeil yn cael ei storio yn eich porwr neu ar yriant caled eich cyfrifiadur, os ydych chi’n cytuno i hynny. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth benodol a drosglwyddir i yriant caled eich cyfrifiadur.

Rydym yn defnyddio’r cwcis canlynol:

  • Cwcis hollol angenrheidiol. Dyma’r cwcis sydd eu hangen er mwyn gweithredu ein gwefan. Maent yn cynnwys, er enghraifft, cwcis sy’n eich galluogi i fewngofnodi i rannau o’n gwefan sydd wedi’u diogelu.
  • Cwcis dadansoddol / perfformiad. Mae’r cwcis hyn yn caniatáu inni gydnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr â’n gwefan a gweld sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Mae’r cwcis hyn yn ein helpu i wella’r ffordd y mae ein gwefan yn gweithio.
  • Cwcis ffwythiannol Defnyddir y cwcis hyn i’ch adnabod chi pan fyddwch chi’n dychwelyd i’n gwefan. Bydd hyn yn ein galluogi i bersonoli ein cynnwys ar eich cyfer, defnyddio eich enw wrth eich cyfarch a chofio eich dewisiadau.
  • Cwis targedu. Mae’r cwcis hyn yn cofnodi eich ymweliad â’n gwefan, y tudalennau yr ydych wedi ymweld â nhw a’r dolenni yr ydych wedi clicio arnynt. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod ein gwefan a’r hysbysebion arni yn cyd-fynd yn well â’ch diddordebau. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon â thrydydd partïon i’r diben hwn.

Sylwch y gall trydydd partïon hefyd ddefnyddio cwcis, ac nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y rheiny. [Mae’r cwcis hyn yn debygol o fod yn gwcis dadansoddol/perfformiad neu’n gwcis targedu]. Os nad ydych chi am inni ddefnyddio cwcis yn y modd a amlinellwyd uchod, neu os ydych chi’n newid eich meddwl ar ôl cydsynio i’n defnydd o gwcis, gallwch ddileu a rhwystro cwcis ar y wefan hon drwy eich porwr. Os byddwch chi’n defnyddio gosodiadau eich porwr i rwystro’r holl gwcis (gan gynnwys cwcis hanfodol) mae’n bosibl na fydd rhannau o’n gwefan yn gweithio’n iawn.