Polisi Preifatrwydd

Ynglŷn â’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Mae’r hysbysiad hwn yn berthnasol i’r NSS.

Mae’n egluro pwy sy’n prosesu eich gwybodaeth, at ba ddiben y maent yn ei defnyddio, y sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu hwnnw, a’ch hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data.

Caiff yr hysbysiad hwn ei adolygu’n rheolaidd a’i ddiweddaru’n achlysurol, er enghraifft pan fydd sefydliadau’n newid eu henw, neu i egluro sut y defnyddir eich gwybodaeth. Gellir diweddaru’r hysbysiad unrhyw bryd a bydd y fersiwn ddiweddaraf ar gael bob amser ar y dudalen hon: www.officeforstudents.org.uk/ofs-privacy/other-privacy-notices/

Pwy sy’n cynnal yr NSS a pham?

Cynhelir yr NSS gan Ipsos, asiantaeth ymchwil annibynnol, ar ran y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) a chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU:  Adran Economi Gogledd Iwerddon (DfENI), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), a Chyngor Cyllido’r Alban (SFC).

Yr OfS yw corff rheoleiddio’r sector addysg uwch yn Lloegr, ac mae ganddo rai swyddogaethau statudol a nodir yn Neddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017. Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn rhan bwysig o waith y Swyddfa Fyfyrwyr i reoleiddio ansawdd addysg uwch.Cewch ragor o wybodaeth am yr OfS a’i gwaith ar ei gwefan: www.officeforstudents.org.uk.

Mae gan yr OfS a chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU rôl statudol i sicrhau bod ansawdd addysgu mewn addysg uwch yn cael ei asesu. Cred yr OfS a’i phartneriaid y dylai barn myfyrwyr fod yn rhan bwysig o’r asesiad.

Mae’r OfS wedi comisiynu’r arolwg ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU. Mae’r NSS yn rhan allweddol o dirlun rheoleiddio ehangach yn addysg uwch y DU, ac mae’r corff hyn yn gyfrifol am gyllido’r arolwg.

Yr OfS yw’r ‘rheolydd data’ ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir o fewn cwmpas yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Mae Ipsos yn ‘brosesydd data’ sy’n gweithio ar ran yr OfS i weinyddu’r NSS.

Mae’r OfS ar Ipsos wedi’u cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, a gallwch wirio eu manylion cofrestru yma: https://ico.org.uk/about-the-ico/what-we-do/register-of-datacontrollers/

Mae’r OfS hefyd wedi penodi darparydd dosbarthu data, Texuna Technologies Ltd, i rannu canlyniadau’r NSS â’r prifysgolion a cholegau a’r undebau myfyrwyr sy’n cymryd rhan.

Beth yw diben yr NSS, a beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu fy ngwybodaeth bersonol?

Arolwg blynyddol yw’r NSS sy’n gyfle i fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf roi adborth ar eu profiadau dysgu.

Mae’r NSS hefyd yn anelu i helpu cenedlaethau o fyfyrwyr addysg uwch y dyfodol i ddewis beth i’w astudio ac ymhle, drwy roi cyfle iddynt weld adborth dienw ar bynciau a phrifysgolion/colegau. Mae’r arolwg yn cynnwys myfyrwyr mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban a myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau addysg uwch mewn colegau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r canlyniadau ar gael yn gyhoeddus drwy wefan  Darganfod Prifysgol .

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae angen sail gyfreithiol er mwyn gallu prosesu eich gwybodaeth. Dyma’r seiliau cyfreithiol yn yr achos hwn:

  • Bod angen prosesu’r wybodaeth er mwy cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu er mwyn arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i’r Rheolydd (gweler Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU) ac i ddibenion ystadegau ac ymchwil (gweler Erthygl 89 GDPR y DU).
  • Bod angen Categorïau Arbennig o ddata i ddibenion ystadegau ac ymchwil yn unol ag Erthygl 89(1) ac Atodlen 1 rhan (4) o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler Erthygl 9(2(j) GDPR y DU).

Pwy sy’n gweld fy ngwybodaeth bersonol?

Yr OfS yw’r ‘rheolydd data” ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir ac a drosglwyddir o dan gontract â chynhalwyr yr arolwg. O dro i dro, gall yr OfS ddefnyddio asiantwyr neu gyrff anstatudol eraill i gyflawni swyddogaethau ar ei rhan.

Mae’r OfS wedi dewis Ipsos i gynnal yr NSS. I ddibenion yr NSS, mae Ipsos yn gweithredu fel ‘prosesydd data’ ar ran yr OfS. Mae’r OfS wedi sefydlu cytundeb diogelu data ag Ipsos sy’n cynnwys mesurau i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.

Mae’r OfS hefyd wedi sefydlu cytundeb diogelu data â Texuna Technologies Ltd, y sefydliad sydd ar hyn o bryd yn rhannu canlyniadau’r NSS â phrifysgolion a cholegau ac sy’n derbyn rhannau o’r data a ddarparwyd gennych chi ar ffurf anadnabyddadwy. Mae’r cytundeb yn rhoi’r amddiffyniad angenrheidiol o dan y gyfraith i ddiogelu gwybodaeth myfyrwyr.

I ddibenion yr NSS, caiff yr OfS rannu gwybodaeth myfyrwyr, neu rannau ohoni, â chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU – DfENI, CCAUC a’r SFC. https://www.officeforstudents.org.uk/ofs-privacy/privacy-notice/

Mae’r OfS wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac i fod yn glir ynghylch pa wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch chi, a sut rydym yn ei defnyddio. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol gan bob parti dan sylw. Bydd yn cael ei storio’n ddiogel o fewn y Deyrnas Unedig, ac ni chaiff ei throsglwyddo y tu allan i’r diriogaeth honno heb ganiatâd penodol mewn ysgrifen gan yr OfS, ac wedyn gan sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith a bennir gan yr OfS yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data (boed hynny’n unol ag Erthygl 46 GDPR y DU neu Erthygl 37 Cyfarwyddeb Gorfodi’r Gyfraith). Os trosglwyddir gwybodaeth y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ni fydd pob cofnod o destun ond yn gallu cael ei adnabod yn fewnol gan Ipsos drwy ddefnyddio rhif cyfresol.

Pa wybodaeth bersonol ydych chi’n ei chasglu amdanaf a sut ydych chi’n casglu fy manylion cyswllt?

Cesglir gwybodaeth myfyrwyr i ddechrau gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a’r Asiantaeth Cyllido Addysg a Sgiliau (ESFA) a’i chyflwyno i’r OfS. Mae’r OfS neu DfENI yn darparu’r categorïau canlynol o ddata personol i Ipsos ar gyfer pob myfyriwr cymwys:

  • dyddiad geni
  • manylion y cwrs
  • cod adnabod unigryw

Bydd yr OfS wedyn yn gofyn i brifysgolion a cholegau drosglwyddo manylion cyswllt myfyrwyr i Ipsos er mwyn iddo gynnal yr arolwg. Bydd prifysgolion a cholegau’n darparu’r categorïau canlynol o ddata personol i Ipsos ar gyfer pob myfyriwr cymwys;

  • enwau
  • cyfeiriadau e-bost
  • rhifau ffôn cyswllt
  • cod adnabod unigryw
  • dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg).

Ni chaiff yr wybodaeth hon ond ei defnyddio i ddosbarthu’r NSS, ac ni chaiff ei rhannu ag unrhyw sefydliad allanol.

Yn ogystal â hynny, defnyddir offeryn yr arolwg i gasglu eich ymatebion i’r NSS. Mae Ipsos yn casglu metadata fel cydraniad sgrin, dull o gymryd rhan a’r amser a gymerir i gwblhau’r arolwg. Caiff yr wybodaeth hon ei chyflenwi i’r OfS, ac ni chaiff ond ei defnyddio er mwyn dadansoddi a gwerthuso i weld a yw’r arolwg yn gweithio’n llwyddiannus ac a oes modd ei wella. Isod, mae rhestr o’r para ddata:

  • Dyddiad yr ymateb
  • Dull yr ymateb
  • Hyd yr amser i ymateb
  • Hyd yr amser ar bob sgrin (ar-lein)
  • Gwybodaeth am y porwr a ddefnyddiwyd
  • Gwybodaeth am ymatebion dyblyg
  • Gwybodaeth am ymatebion rhannol
  • Baneri i ddangos faint o gyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn a ddarparwyd
  • P’un a yw negeseuon e-bost wedi dod yn ôl
  • Nifer y negeseuon e-bost a anfonwyd
  • Os ydynt ar-lein, p’un a ydynt wedi cyrchu trwy’r wefan neu’r ddolen e-bost
  • Hunaniaeth Ipsos y cyfwelydd ffôn
  • Nifer yr ymgeisiadau ffôn a wnaed
  • P’un a wnaethant wrthod / optio allan ar y ffôn
  • Os cynigiwyd raffl, a wnaethant optio i mewn.

 

Bydd yr OfS hefyd yn paru’r data hyn â’r data categori arbennig canlynol a dderbynnir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch a Chofnod Dysgwr Unigol myfyrwyr:

  • ethnigrwydd
  • crefydd (os yw’n berthnasol)
  • anabledd (os yw’n berthnasol)
  • cyfeiriadedd rhywiol.

Rydym yn gweithio i osgoi datgelu gwybodaeth am unigolion, yn enwedig pan fo’r wybodaeth yn sensitif (er enghraifft, canlyniadau Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr sy’n awgrymu nad yw myfyrwyr yn fodlon ar agweddau o’u cwrs). Er enghraifft, byddwn yn atal data pan nad oes digon o ymatebwyr mewn grŵp penodol i leihau’r risg o ddatgelu gwybodaeth am unigolion.

Mewn achosion prin, gall yr holl fyfyrwyr mewn grŵp (cwrs, adran neu nodwedd) ymateb yn negyddol neu’n gadarnhaol i gwestiwn. Yn y senario hwn, byddai’n datgelu rhywbeth am yr holl unigolion yn y grŵp hwnnw pe bai’r data yma’n cael ei gyhoeddi. I warchod cyfrinachedd ymatebwyr mewn achosion lle ymatebodd yr holl ymatebwyr yn negyddol, neu lle ymatebodd yr holl fyfyrwyr a bod pawb ond un wedi ymateb yn negyddol, caiff y data ei gelu a’i ddisodli â marciwr i liniaru’r risg o unrhyw anfantais i unigolion a allai ddigwydd o ganlyniad i gael eu hadnabod.

Sut y caiff yr wybodaeth a ddarperir gennyf ei defnyddio?

Caiff y manylion cyswllt myfyriwr a ddarperir gan eich prifysgol neu goleg eu defnyddio gan Ipsos dim ond i’ch gwahodd i gyfranogi yn yr arolwg ac i ddilysu bod yr unigolion cywir yn ymateb i’r arolwg.

Bydd eich ymatebion i’r Arolwg yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil a gallant hefyd gael eu defnyddio gan y Swyddfa Fyfyrwyr a chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o’u swyddogaethau statudol. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gall eich ymatebion i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr gael eu defnyddio gan y Swyddfa Fyfyrwyr i gyflawni ei swyddogaethau statudol, gweler hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y Swyddfa Fyfyrwyr yma.

Bydd ymatebion i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn cael eu cadw gan y Swyddfa Fyfyrwyr mewn fformat ffugenwol. Mae ffugenwi’n dechneg sy’n disodli gwybodaeth sy’n datgelu pwy yw unigolyn neu’n ei thynnu allan. I gael rhagor o wybodaeth am gadw eich gwybodaeth bersonol, gweler yr adran ‘Am faint o amser fydd fy ngwybodaeth bersonol yn cael ei dal?’ isod.

A fydd fy ymatebion i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn cael eu rhannu gyda fy mhrifysgol neu goleg?

Bydd canlyniadau NSS y gwaith ymchwil hwn a ddarperir i brifysgolion a cholegau, ac i’r cyhoedd, yn cael eu cyflwyno’n ddienw ac ar ffurf gwybodaeth ystadegol yn unig. Rydym yn cymryd camau i atal unigolion rhag cael eu hadnabod mewn unrhyw ganlyniadau a gyhoeddir. Bydd eich cyfranogiad yn yr ymchwil, ynghyd â’ch atebion unigol i’r cwestiynau, yn cael eu cadw’n gwbl gyfrinachol yn unol â gofynion a safonau diogelu gwybodaeth, fel y cytunwyd arnynt rhwng Ipsos a’r OfS. Gallwn hefyd eich sicrhau NA fydd eich ymatebion unigol i’r NSS na’ch sylwadau penagored yn cael eu defnyddio i ddibenion marchnata. Fodd bynnag, caniateir i brifysgolion/colegau aralleirio sylwadau penagored mewn deunyddiau marchnata o gwestiynau craidd yr NSS, ar yr amod na ellir adnabod unrhyw unigolyn drwy’r testun, ac na chaiff y sylwadau eu priodoli i’r NSS. Ni fyddwn yn gwerthu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd partïon.

Bydd darparwyr yn defnyddio’r sylwadau penagored o’r NSS fel adborth ar eich profiadau dysgu. Os byddwch yn nodi unrhyw sylwadau’n gysylltiedig â’ch lles corfforol neu feddyliol, neu’n rhannu pryderon ynghylch diogelu yn y cwestiynau penagored, sylwch na fydd eich prifysgol neu goleg yn gallu mynd ar drywydd y rhain am resymau’n ymwneud â chyfrinachedd. Ni ellir adnabod unigolion o’u hymatebion, felly ni fydd prifysgolion/colegau’n gwybod pwy sydd wedi rhoi adborth. Os oes gennych chi bryderon ynghylch eich lles neu eich diogelwch eich hun, mae’n bwysig ichi gysylltu â’ch darparydd i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

Ar gyfer sefyllfa frys a/neu os oes risg i fywyd sydd ar fin digwydd, cysylltwch â’r gwasanaethau brys ar 999.

Ar gyfer sefyllfa ddifrys, gallwch gysylltu â’r gwasanaethau canlynol i gael help a chyngor:

  • Yr heddlu: gallwch eu ffonio ar 101, sy’n llinell gymorth 24/7.
  • Y GIG: gallwch eu ffonio ar 111, sy’n llinell gymorth 24/7.
  • Y Samariaid: elusen sydd wedi’i neilltuo i leihau teimladau o arwahanrwydd a datgysylltiad a all arwain at hunanladdiad. Gallwch eu ffonio ar 116 123 sy’n llinell gymorth 24/7.
  • Student Minds: elusen iechyd meddwl myfyrwyr y DU. Gallwch ddod o hyd i gymorth ar y dudalen hon: https://www.studentminds.org.uk/findsupport.html
  • Student Space: Llwyfan ar-lein sy’n darparu gwasanaethau cymorth a chyngor a gwybodaeth am fywyd myfyrwyr. Gallwch ddod o hyd i gymorth ar y dudalen hon: https://studentspace.org.uk
  • Mind: elusen iechyd meddwl sy’n cynnig cymorth dros y ffôn ar 0300 123 3393 neu ar-lein yn: https://www.mind.org.uk/information-support/helplines/
  • SHOUT 85258: gwasanaeth cymorth negeseua testun 24/7 cyfrinachol, rhad-ac-am-ddim i unrhyw un sy’n cael trafferth ymdopi: https://giveusashout.org/
  • Gwefan gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl y GIG: https://www.nhs.uk/mental-health/

Am ba hyd y bydd fy ngwybodaeth bersonol yn cael ei chadw?

Mae’r amodau canlynol yn berthnasol i wybodaeth bersonol a ddarperir mewn ymateb i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr:

  • Bydd Ipsos yn dinistrio holl fanylion cyswllt myfyrwyr cyn pen mis calendr ar ôl cau’r arolwg (erbyn 31 Mai 2024).
  • Cyn pen tri mis calendr ar ôl cau’r prosiect, bydd Ipsos yn cael gwared â’r holl ddata eraill ar fyfyrwyr o’u systemau cyfrifiadurol a’u trosglwyddo o dan ffugenwau i’r OfS, erbyn 31 Hydref 2024.
  • Gall ymatebion ffugenwol i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a pharaddata am yr ymateb fel y’i disgrifir uchod gael eu defnyddio gan y Swyddfa Fyfyrwyr mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o’i dyletswyddau statudol. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gall gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio gan y Swyddfa Fyfyrwyr mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau statudol, a pha mor hir y bydd y Swyddfa Fyfyrwyr yn cadw gwybodaeth bersonol at y dibenion hyn, gweler hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y Swyddfa Fyfyrwyr
  • Gall ymatebion ffugenwol i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a pharaddata am yr ymateb fel y’i disgrifir uchod yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol gan y Swyddfa Fyfyrwyr er mwyn llunio dadansoddiad ystadegol ac ymchwil i ansawdd a phrofiadau myfyrwyr, a thueddiadau mewn addysg uwch, ac i wella arolygon yn y dyfodol. Ni fydd unrhyw adroddiadau a gyhoeddir gan y Swyddfa Fyfyrwyr yn cynnwys data unigol adnabyddadwy.

Sut mae’r OfS ac Ipsos yn sicrhau bod fy ngwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel?

Mae’r OFS ac Ipsos yn cymryd cyfrifoldebau i gadw’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel o ddifrif. Gan hynny, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel rhag iddi fynd ar goll, cael ei dwyn neu gael ei chamddefnyddio. Mae’r rhagofalon hyn yn cynnwys diogelu ein hadeiladau swyddfa mewn modd priodol, rheoli mynediad at systemau cyfrifiadurol a defnyddio cysylltiadau diogel wedi’u hamgryptio â’r rhyngrwyd wrth gasglu gwybodaeth bersonol.

Mae gan yr OfS nifer o fesurau diogelwch ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys achrediad safon Cyber Essentials PLUS ar gyfer seiberddiogelwch, a hyfforddiant gorfodol i’r staff ar ddiogelu data a diogelu gwybodaeth.

Mae Ipsos yn cynnal archwiliadau mewnol ac allanol o’i ddiogelwch gwybodaeth ac wedi cofrestru gyda’r Safon Ryngwladol ar gyfer Diogelu Gwybodaeth, ISO 27001. Mae Ipsos yn aelod o Gymdeithas Ymchwil y Farchnad, sy’n golygu ei fod wedi ymrwymo i gynnal ymchwil y farchnad mewn modd cydymffurfiol a moesegol.

Sut mae dewis peidio derbyn gohebiaeth gan Ipsos i gwblhau’r NSS?

Gallwch ofyn i Ipsos gael tynnu eich manylion oddi ar y rhestr gyswllt sy’n cael ei defnyddio ar gyfer yr NSS. Bydd Ipsos yn gofyn ichi gadarnhau eich manylion i sicrhau bod y cofnodion cywir yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr cysylltiadau. Mae’n bwysig i fyfyrwyr ddilysu eu manylion fel bod yr NSS yn cynnig data cadarn er mwyn i ddarpar fyfyrwyr a’r rhai sy’n eu cynghori allu gwneud dewisiadau deallus. Os bydd myfyriwr yn dewis peidio cymryd rhan ar unrhyw bryd, bydd ei holl wybodaeth bersonol (manylion cyswllt, dyddiad geni ac ati) yn cael ei dileu’n ddiogel ac yn barhaol o’r rhestr cysylltiadau a ddefnyddir ar gyfer yr arolwg hwn, ac ni fydd Ipsos yn cysylltu â’r myfyriwr hwnnw eto. Gall myfyrwyr wneud hyn drwy ddefnyddio’r ffurflen ‘optio allan’ ar wefan yr arolwg, o 8 Ionawr tan 30 Ebrill 2024, neu drwy gysylltu ag Ipsos.

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd angen i’r OfS ddadansoddi data ar lefel myfyriwr yn gysylltiedig â gwrthod cymryd rhan neu optio allan. Yn yr achos hwn, bydd Ipsos yn trosglwyddo data’n ddiogel i’r OfS am fyfyrwyr sydd wedi penderfynu peidio cymryd rhan yn yr arolwg.

Sylwch y bydd rhai darparwyr yn anfon eu gohebiaeth eu hunain at fyfyrwyr ynghylch yr NSS. Nid yw’r OfS nac Ipsos yn gyfrifol am yr ohebiaeth hon gan ddarparwyr.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ymchwil ar thestudentsurvey@ipsos.com.

Sut y caiff canlyniadau’r NSS eu defnyddio?

Bydd yr OfS a chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU yn cyhoeddi canlyniadau cyfanredol a dienw’r arolwg yn y ffyrdd canlynol:

  • Cyhoeddi ‘mewn cyd-destun’ ar wefannau prifysgolion a cholegau drwy declyn. Cymhwysiad bach ar y we yw hwn sy’n arddangos gwybodaeth o wefan Darganfod Prifysgol  ar gyfer y cwrs y mae’r defnyddiwr yn edrych arno.
  • Cyhoeddi ar wefan Darganfod Prifysgol, i alluogi defnyddwyr i chwilio a chymharu gwybodaeth am gyrsiau a phrifysgolion a cholegau.
  • Rhagwelir y bydd data ar gael drwy beiriant chwilio am gyrsiau UCAS (Course Finder), er mwyn i ddefnyddwyr weld y data wrth edrych ar gyrsiau y mae ganddynt ddiddordeb mewn ymgeisio amdanynt.
  • I ddibenion dadansoddi. Gallai hyn olygu bod cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU yn cyflawni gwaith ymchwil neu’n rhyddhau data, gan gynnwys unrhyw sylwadau penagored y gallech fod wedi’u gwneud, i ddefnyddwyr a gymeradwywyd gan yr OfS (ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio eraill y DU), fel ymchwilwyr academaidd a sefydliadau o fewn y sector er mwyn cyflawni gwaith dadansoddi neu ymchwil. Bydd yr OfS yn cadw rheolaeth ar y data drwy gontract â’r defnyddwyr hynny, neu os yw’r defnyddiwr hwnnw yn is-gontractio’r gwaith, byddwn yn disgwyl iddynt hwythau gadw’r un rheolaeth. Ni fydd adroddiadau ond yn cyflwyno data cyfanredol a dienw, ac ni fydd modd adnabod unrhyw unigolyn ar unrhyw bryd.
  • I roi adborth cryno i brifysgolion a cholegau unigol. Bydd y data hyn yn cael eu darparu i brifysgolion a cholegau i’w helpu i adnabod eu cryfderau, a nodi pa welliannau sydd eu hangen. Bydd yr adborth cryno hwn yn cael ei gyfuno a’i gyflwyno’n ddienw, gan olygu na fydd modd adnabod unrhyw fyfyriwr unigol. Gall y canlyniadau hyn hefyd gynnwys testun mewn unrhyw sylwadau a roddir gan fyfyrwyr ar ddiwedd yr holiadur. Gwneir pob ymdrech i lanhau’r sylwadau a sicrhau eu bod yn ddienw, ac fe gynghorir defnyddwyr y data i’w defnyddio mewn modd priodol. Ni chaiff y testun hwn ei briodoli i unigolion, ac fe gynghorir myfyrwyr i osgoi gwneud sylwadau:
    • a allai olygu bod modd eu hadnabod yn unigol;
    • sy’n enwi unigolion;
    • sy’n cynnwys cyfeiriadau a fyddai’n golygu bod modd adnabod unigolyn.
  • Bydd darparwyr yn defnyddio’r sylwadau penagored o’r NSS fel adborth ar eich profiadau dysgu. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud unrhyw sylwadau’n gysylltiedig â’ch lles corfforol neu feddyliol, neu’n rhannu pryderon ynghylch diogelu yn y cwestiynau penagored, sylwch na fydd eich prifysgol neu goleg yn gallu mynd ar drywydd y rhain am resymau’n ymwneud â chyfrinachedd. Ni ellir adnabod unigolion o’u hymatebion, felly ni fydd prifysgolion a cholegau’n gwybod pwy sydd wedi rhoi adborth. Os oes gennych chi bryderon ynghylch eich lles neu eich diogelwch eich hun, mae’n bwysig ichi gysylltu â’ch darparydd i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael. Gweler ‘Sut y caiff yr wybodaeth a ddarperir gennyf ei defnyddio?’ uchod am wasanaethau y gallwch gysylltu â hwy i gael help a chyngor.
  • Caniateir i ddarparwyr rannu data sy’n ymwneud â sylwadau ar ffurf testun agored rhyngddynt hwy eu hunain a thrydydd parti ar y sail bod y trydydd parti’n prosesu data ar ran y darparwr at y dibenion a nodir yn hysbysiad preifatrwydd yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.
  • Efallai y bydd prifysgolion a cholegau yn defnyddio eu canlyniadau o’r NSS mewn deunyddiau marchnata, i hyrwyddo cyrsiau neilltuol neu’r darparydd yn gyffredinol. Caniateir hyn, ond ceir amryw o gyfyngiadau yn dibynnu ar natur ac ansawdd y data sy’n cael eu rhannu.
  • Mae’n rhaid cadw at drothwyon cyhoeddi (isafswm cyfradd ymateb o 50 y cant, ac o leiaf 10 o fyfyrwyr) ar bob lefel. Ni cheir cyhoeddi unrhyw ganlyniadau sy’n is na’r trothwy hwn. Ceir defnyddio canlyniadau’r NSS o ddata cyhoeddedig mewn deunyddiau marchnata a’u priodoli i’r NSS, ar yr amod bod y trothwyon cyhoeddi a grybwyllir uchod yn cael eu bodloni.
  • Ni ddylai sylwadau penagored o’r holiadur NSS craidd gael eu defnyddio mewn deunyddiau sydd ar gael yn gyhoeddus, er mwyn cadw myfyrwyr yn ddienw. Dim ond gyda’r brifysgol berthnasol neu’r coleg perthnasol neu’r corff cyllido a rheoleiddio perthnasol yn y DU, neu gydag ymchwilwyr mewn sefydliadau yn y sector a gymeradwywyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr y bydd y sylwadau penagored dienw’n cael eu rhannu. Felly, ni chaiff prifysgolion a cholegau ddyfynnu sylwadau penagored mewn deunyddiau marchnata. Fodd bynnag, gall sylwadau penagored o’r holiadur NSS craidd gael eu haralleirio mewn deunyddiau marchnata, cyn belled â nad yw’r testun yn ei gwneud yn bosibl adnabod unrhyw unigolion, ac nad yw’r sylwadau’n cael eu priodoli i’r NSS. Rhaid bodloni’r trothwyon cyhoeddi a grybwyllwyd uchod ar gyfer y garfan y mae ei chanlyniadau’n cael eu haralleirio.
  • Ceir hefyd ddefnyddio canlyniadau’r NSS o ddata heb eu cyhoeddi, fel casgliadau dewisol o gwestiynau neu gwestiynau penodol i’r darparydd, mewn deunyddiau marchnata, ond ni cheir priodoli’r rhain i’r NSS. Fodd bynnag, ni ddylid defnyddio sylwadau testun rhydd mewn deunyddiau sydd ar gael i’r cyhoedd, er mwyn sicrhau nad oes modd adnabod y myfyrwyr dan sylw. Mae’n rhaid cyrraedd y trothwyon cyhoeddi a grybwyllir uchod ar gyfer y cohort y mae ei ganlyniadau’n cael eu cyhoeddi.
  • Ni cheir defnyddio sylwadau penagored o’r casgliadau dewisol o gwestiynau sy’n benodol i’r darparydd ar unrhyw ffurf. Er bod enwau wedi’u hepgor o adborth yr NSS, efallai y bydd hi’n dal yn bosibl i rai sy’n gweithio mewn prifysgol/coleg eu hadnabod eu hunain a’u cydweithwyr. Gan hynny, gallai gwybodaeth o’r fath fod yn ddata personol, a gofynnir i brifysgolion a cholegau gadw hyn mewn cof wrth brosesu’r data.
  • Gall y Swyddfa Fyfyrwyr a chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU ddefnyddio data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau statudol. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gall gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio gan y Swyddfa Fyfyrwyr mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau statudol, gweler hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y Swyddfa Fyfyrwyr yma.
  • Fel rhan o ofyniad cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU i gyflawni eu dyletswyddau statudol, caniateir i ddarparwyr ddefnyddio data ystadegol canlyniadau NSS, gan gynnwys data o’r cwestiynau banciau dewisol, i’w cynnwys yn eu cyflwyniadau TEF. Unrhyw ddata canlyniadau a ddefnyddir fel rhan o gyflwyniad bydd yn ddienw a’i darparu ar ffurf gwybodaeth ystadegol yn unig. Cynghorir darparwyr i wahardd yn eu cyflwyniadau unrhyw ddyfyniadau uniongyrchol o sylwadau testun agored neu ddata ansoddol banciau dewisol er mwyn cynnal anhysbysrwydd yr ymatebwyr a phreifatrwydd data.

Cwestiynau Dewisol

Bydd rhai prifysgolion a cholegau’n gofyn cwestiynau dewisol i’w myfyrwyr, neu gwestiynau’n ymwneud yn benodol â’r brifysgol/coleg.

Gofynnir y cwestiynau hyn drwy’r arolwg ar-lein yn unig, a’u pwrpas yw rhoi adborth cyfrinachol ychwanegol i’r prifysgolion/colegau. Mae’r OfS a chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU yn defnyddio’r wybodaeth i’r dibenion canlynol:

  • I roi adborth cryno i brifysgolion/colegau unigol. Bydd y data yma’n cael eu darparu i brifysgolion a cholegau i’w helpu i adnabod eu cryfderau, a gwybod sut i wella;
  • I ddibenion dadansoddi ystadegol. Gallai hyn olygu rhyddhau data i ddefnyddwyr cymeradwy eraill, a allai gynnwys ymchwilwyr academaidd. Bydd yr OfS yn cadw rheolaeth ar y data drwy gontract â’r defnyddwyr hynny, neu os yw’r defnyddiwr hwnnw yn is-gontractio’r gwaith, byddwn yn disgwyl iddynt hwythau gadw’r un rheolaeth. Dim ond data dienw a data cyfanredol a gyflwynir yn yr adroddiadau;
  • Mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau statudol.

Ni chaiff y data hyn eu cyhoeddi ar wefan Darganfod Prifysgol.

Sut y gallaf arfer fy hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data?

Defnyddir yr holl wybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data (y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018). Ar ôl casglu eich gwybodaeth bersonol, bydd gennych hawliau penodol y ceir eu harfer yn gysylltiedig â’r wybodaeth bersonol honno, gan gynnwys yr hawl i ofyn am y canlynol:

  • am gopi o’ch gwybodaeth bersonol, drwy broses a elwir yn Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun.
  • i ddiweddaru neu gywiro gwybodaeth bersonol anghywir a gedwir amdanoch
  • am gael dileu eich gwybodaeth bersonol (o fewn terfynau penodol)
  • am gael dileu eich ymatebion i’r arolwg
  • inni beidio cysylltu â chi eto (cais peidio cysylltu)
  • inni gyfyngu ar y modd y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu
  • i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, a’i phrosesu’n awtomatig.

Sylwch nad yw’r rhain yn hawliau absoliwt, ac nad ydynt yn berthnasol ym mhob sefyllfa, yn dibynnu ar y cais ac i ba ddiben yr ydym yn dal eich gwybodaeth bersonol.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch y defnydd o ddata i’r dibenion hyn, neu os hoffech arfer unrhyw un o’ch hawliau uchod, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data yn yr OfS drwy anfon e-bost i dp@officeforstudents.org.uk, neu drwy fynd i www.officeforstudents.org.uk/contact/how-to-requestinformation-from-us/.

Cewch hefyd gyflwyno’r cais hwn drwy’r post, mewn ysgrifen i’r cyfeiriad canlynol:

Data Protection Officer
Westward House
Lime Kiln Close
Stoke Gifford
BRISTOL
BS34 8SR

Bydd Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun yn cael ei gyflawni cyn pen mis ar ôl i’r cais ddod i law. Bydd yr OfS yn penderfynu a oes unrhyw eithriadau’n berthnasol, fel bo modd golygu’r wybodaeth yn unol â hynny. Eithriadau yw unrhyw gynnwys:

  • sydd yn cynnwys data personol gan drydydd parti, neu sydd fel arall yn ei gwneud hi’n bosibl i adnabod trydydd parti;
  • a fyddai’n amharu ar y gallu i atal neu ganfod trosedd;
  • sy’n cynnwys cyngor cyfreithiol;
  • sy’n cynnwys data a fyddai, o’u rhyddhau, yn cael effaith andwyol ar allu cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU i gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.

Sylwch nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, ac y bydd yr OfS yn cymhwyso unrhyw eithriadau fesul achos.

Bydd cais i gywiro neu ddileu gwybodaeth bersonol yn cael ei brosesu cyn gynted â phosibl ar ôl i gais dilys ddod i law. Sylwch na fydd modd dileu’r holl ddata personol os bydd hyn yn cael effaith andwyol ar allu cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU i gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.

Er mwyn sicrhau bod unrhyw un o’r prosesau uchod yn cael eu cymhwyso i destun cywir y data, efallai y bydd yr OfS yn gofyn am wybodaeth bellach er mwyn gallu adnabod yr unigolyn. Gall hyn gynnwys dyddiad geni, neu gopi o basbort neu drwydded yrru testun y data.

Sylwch, er mwyn cyflawni’ch cais a choladu’r holl wybodaeth bersonol o fewn ei gwmpas, efallai y bydd angen rhannu’ch manylion rhwng Ipsos a’r OfS, a sefydliadau eraill sy’n gwneud gwaith prosesu i ddibenion yr NSS.

Gellir cael hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliau hyn a’r prosesau sydd gennym er mwyn ymdrin â’r ceisiadau hynny ar wefan yr OfS yn www.officeforstudents.org.uk/ofs-privacy/individual-rights-under-the-generaldata-protection-regulation/

Os na allwn ddatrys y mater yn foddhaol, gallwch hefyd wneud cwyn i’r awdurdod goruchwylio diogelu data. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw’r awdurdod hwnnw yn y DU. Gellir cysylltu â’r swyddfa yn:

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

E-bost: casework@ico.org.uk

Sut mae cael rhagor o wybodaeth am y defnydd o Gwcis ar wefan yr NSS?

Mae gwefan yr NSS yn defnyddio cwcis er mwyn helpu i roi profiad da ichi wrth bori drwy’r wefan, ac er mwyn gwella’r wefan. Am ragor o wybodaeth am y defnydd o Gwcis ar wefan yr NSS, ewch i: https://www.thestudentsurvey.com/cookie-policy/

Sut mae cael rhagor o fanylion am y datganiad preifatrwydd hwn a’r graddau yr ydym yn cydymffurfio ag datganiad? 

Os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cydymffurfiaeth Ipsos â chyfreithiau diogelu data neu’r wybodaeth a ddelir amdanoch chi ar gyfer y gwaith ymchwil hwn, cysylltwch â’r OfS gan ddefnyddio’r manylion uchod neu Ipsos. Gellir cysylltu ag Ipsos drwy anfon e-bost i: TheStudentSurvey@ipsos.com gan nodi ’’23-042258-01 NSS 2024’ fel y testun; neu drwy anfon llythyr i:

Ref: 23-042258-01 NSS 2024
The National Student Survey
Ipsos
Kings House
Kymberley Road
Harrow
HA1 1PT.

Ga i roi adborth ar yr NSS?

Cewch Mae Ipsos, yr OfS a chyrff cyllido a rheoleiddio’r DU wedi ymrwymo i wella’r NSS yn barhaus. Os oes gennych chi gwestiwn, sylw ac/neu gŵyn ynghylch y gwaith ymchwil hwn, cysylltwch ag Ipsos yn thestudentsurvey@ipsos.com neu’r OfS yn nss@officeforstudents.org.uk, neu anfon llythyr i Ipsos yn:

National Student Survey
Ipsos
Kings House
Kymberley Road
Harrow
HA1 1PT.

Meini Prawf Cymhwystra ar gyfer yr NSS

Mae’r meini prawf cymhwysedd fel y’u diffinnir gan y Swyddfa Myfyrwyr (ar draws yr holl ddarparwyr sy’n cymryd rhan) fel a ganlyn:

  • Myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn:
    • Myfyrwyr israddedig amser llawn sydd wedi’u cofrestru mewn sefydliadau addysg uwch, colegau addysg bellach, sefydliadau addysg bellach a darparwyr amgen (lle y bo’n berthnasol) sy’n cyfranogi.
    • Myfyrwyr israddedig rhan-amser sydd wedi’u cofrestru mewn sefydliadau addysg uwch, colegau addysg bellach, sefydliadau addysg bellach a darparwyr amgen (lle y bo’n berthnasol) sy’n cyfranogi
  • Myfyrwyr blwyddyn olaf a chyfwerth:
    • Myfyrwyr y disgwylir iddynt fod yn eu blwyddyn olaf.
    • Myfyrwyr ar raglenni hyblyg nad yw’n bosibl rhagweld pryd bydd y flwyddyn olaf, ar ôl y disgwylir iddynt fod wedi gwneud mwy nag un flwyddyn o astudiaeth academaidd gyfwerth ag amser llawn ac nid cyn eu pedwaredd flwyddyn.
  • Myfyrwyr gyda’r trefniadau cyllido canlynol:
    • Pob myfyriwr sy’n astudio mewn sefydliadau darparwyr a ariennir yn uniongyrchol yn y DU.
    • Yn astudio cwrs sy’n gysylltiedig â chorff rheoleiddio iechyd neu ofal cymdeithasol, gan gynnwys myfyrwyr sy’n astudio pynciau nyrsio cyn-gofrestru, bydwreigiaeth, proffesiwn perthynol i iechyd, gwaith cymdeithasol ac ymarfer clinigol.
    • Caiff myfyrwyr eu cynnwys ym mhoblogaeth arolwg 2024 os oes disgwyl iddynt orffen rhwng 1 Chwefror 2024 a 31 Ionawr 2025 yn gynhwysol.
  • Serch hynny, nid yw’r canlynol yn gymwys:
    • Myfyrwyr nad ydynt ar gyrsiau caeedig.
    • Myfyrwyr ar raglenni nad ydynt yn arwain at gymwysterau neu gredydau israddedig.
    • Myfyrwyr ar gwrs sy’n para am flwyddyn neu flwyddyn gyfwerth ag amser llawn neu lai.
    • Unrhyw fyfyrwyr a oedd yn gymwys yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023 (p’un a wnaethant ymateb ai peidio) ac sy’n parhau i fod yn derbyn addysg gan yr un darparwr.
    • Myfyrwyr o dan 16 oed.

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Tachwedd 2023.