
Meini Prawf Cymhwystra
Mae’r myfyrwyr canlynol yn gymwys:
I gwblhau’r arolwg, gwiriwch eich cymhwysedd isod.
Mae’r myfyrwyr canlynol yn gymwys:
Myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a myfyrwyr cyfatebol:
- Myfyrwyr y disgwylir iddynt fod ar eu blwyddyn olaf.
- Myfyrwyr ar raglenni hyblyg lle na ellir rhagweld y flwyddyn olaf, ar ôl y cyfnod lle disgwylir iddynt fod wedi dilyn mwy nag un flwyddyn cyfwerth ag amser llawn (CALl) a chyn eu pedwaredd blwyddyn academaidd yn astudio.
Myfyrwyr â’r trefniadau cyllido canlynol:
- Myfyrwyr ar gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.
- Myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau pwnc y GIG.
- Pob myfyriwr sy’n astudio cyrsiau Addysg Uwch rhagnodedig a gyllidir yn uniongyrchol mewn Colegau Addysg Bellach/Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Fodd bynnag, nid yw’r canlynol yn gymwys:
- Myfyrwyr ar raglenni nad ydynt yn arwain at gymwysterau gradd neu gredydau.
- Myfyrwyr ar gwrs blwyddyn o hyd neu flwyddyn CALl neu lai.
- Unrhyw fyfyrwyr a oedd yn gymwys ar gyfer NSS 2022 (p’un a wnaethant ymateb ai peidio) ac sy’n dal i fod gyda’r un darparydd.
- Myfyrwyr o dan 16 oed.
Caiff myfyrwyr eu cynnwys ym mhoblogaeth arolwg 2023 os oes disgwyl iddynt gwblhau eu cwrs rhwng 1 Chwefror 2023 a 31 Ionawr 2024, gan gynnwys y dyddiadau hynny.